News Centre

Busnes lleol llwyddiannus, Acorns Bakery, yn cael cymorth cyllid gan Gronfa Fenter y Cyngor a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Postiwyd ar : 17 Maw 2023

Busnes lleol llwyddiannus, Acorns Bakery, yn cael cymorth cyllid gan Gronfa Fenter y Cyngor a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Mae Acorns Bakery wedi bod mewn busnes ers dros 20 mlynedd ac fe symudodd i Gaerffili yn 2020 ar ôl bod â'i leoliad yng Nghasnewydd yn wreiddiol.

Mae'r becws yn darparu nwyddau wedi'u pobi ffres i gyfanwerthwyr bwyd a busnesau lletygarwch ac mae wedi sicrhau contractau i gyflenwi Wimbledon, y Grand National, yn ogystal â rasys Cheltenham, sydd eu hunain yn archebu dros 16,000 o sgons fesul digwyddiad.

Wrth i Acorns Bakery dyfu a dod yn fwy llwyddiannus, achosodd y galw cynyddol i'r perchennog Patrick Peachey gysylltu â Thîm Menter Fusnes ac Adnewyddu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ym mis Ebrill 2022 i geisio cymorth. Gofynnodd i'r Swyddogion Cymorth Buddsoddi, Sally Harvey a Lauren James, a oedd unrhyw gymorth ar gael i newid y ffyrnau a'r rhewgell presennol am fodelau mwy newydd a fyddai'n gallu coginio a storio rhagor o nwyddau wedi'u pobi.

Ar ôl cael rhywfaint o gyngor gan y tîm, fe wnaeth Acorns Bakery gais i Gronfa Fenter Caerffili y Cyngor ac fe gafodd grant o £10,000 ei ddyfarnu iddyn nhw i gynorthwyo'r busnes sy'n tyfu. Roedd y pryniannau hyn nid yn unig yn caniatáu i'r cwmni ffynnu, ond roedd hefyd yn diogelu eu 3 gweithiwr yng Nghaerffili a chreu swydd ychwanegol.

Ym mis Medi 2022, cysylltodd Acorns Bakery â Sally a Lauren eto i weld a oedd rhagor o gymorth ar gael i alluogi gwaith angenrheidiol ar y lloriau i fynd rhagddo. Fe gawson nhw £4,664 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Cafodd y grant hwn ei neilltuo ar gyfer Acorns Bakery trwy ymyrraeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili o gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin, ac fe ganiataodd y becws i osod llawr newydd, a oedd yn hanfodol i gyflawni'r achrediad angenrheidiol i sicrhau contractau cyfanwerthu mwy.

Dywedodd Patrick Peachey, perchennog Acorns Bakery, “Rydw i'n ddiolchgar am yr holl gymorth mae Cyngor Caerffili wedi ei roi i mi. Mae Lauren a Sally wedi bod yn wych yn fy helpu i ddatblygu fy musnes ymhellach.”

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, “Mae'n wych gweld sut mae'r busnes hwn wedi tyfu ers symud i Gaerffili. Rydyn ni wedi bod yn falch iawn o gynorthwyo Acorns Bakery gyda £10,000 i adnewyddu'r ffyrnau a'r rhewgell. Mae'r busnes wedi dod yn rhan hanfodol o'r gadwyn gyflenwi yn y diwydiant hwn, gan helpu i gynorthwyo busnesau lleol eraill ym Mwrdeistref Sirol Caerffili a thu hwnt.”

Am ragor o wybodaeth am y cymorth busnes sydd ar gael, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu, Tŷ Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach CF82 7WF.
E-bost: Busnes@caerffili.gov.uk
Ffôn: 01443 866220


Ymholiadau'r Cyfryngau