News Centre

Mae'r gwanwyn yn yr awyr yn Ystrad Mynach y penwythnos hwn!

Postiwyd ar : 22 Maw 2023

Mae'r gwanwyn yn yr awyr yn Ystrad Mynach y penwythnos hwn!

Dewch draw i ganol tref Ystrad Mynach a rhowch FFYNNON yn eich cam ddydd Sadwrn yma, 25ain Mawrth!.

Eleni, bydd Ffair y Gwanwyn, Ystrad Mynach, yn dychwelyd ar 25 Mawrth; yn ogystal â Ffair y Gwanwyn, Coed Duon, ar 4 Mawrth – yr un gyntaf erioed; Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili ar 29 Ebrill; a'r digwyddiad newydd, Ffair Calan Mai, Bargod, ar 13 Mai.

Mae'r pedwar digwyddiad yn sicr o fod yn llawn hwyl, gyda llu o stondinau masnach, reidiau ffair, gweithgareddau a pherfformiadau ar y strydoedd, gan hefyd roi cyfle i ymwelwyr gefnogi'r stryd fawr leol a #DewisLleol.

Y llynedd, fe wnaeth Ffair y Gwanwyn, Ystrad Mynach, ddenu dros 6,000 o ymwelwyr i ganol y dref, sef cynnydd o fwy na 5,000 o ymwelwyr o'i gymharu â'r dydd Sadwrn blaenorol. Fe wnaeth digwyddiadau eraill yng nghanol y trefi yn ystod 2022 sicrhau diwrnod mwyaf prysur y flwyddyn iddyn nhw, gyda nifer enfawr o ymwelwyr yn dod i gefnogi'r digwyddiadau a'r stryd fawr.

Meddai Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid Hinsawdd, “Rydyn ni wrth ein bodd o gyhoeddi bod Ffair y Gwanwyn, Ystrad Mynach, a Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili yn dychwelyd, yn ogystal â digwyddiadau newydd, sef Ffair y Gwanwyn, Coed Duon, a Ffair Calan Mai, Bargod.

“Rydyn ni eisiau sicrhau bod digwyddiadau'n cael eu cynnal ledled y Fwrdeistref Sirol, felly bydd y ddau ddyddiad ychwanegol yn y dyddiadur yn cefnogi'r masnachwyr lleol gan ddod â mwy o ymwelwyr i'r stryd fawr yn ein Bwrdeistref Sirol. Cadwch lygad am newyddion am ddigwyddiadau eraill sy'n dod yn fuan.”

Meddai Cyngor Tref Bargod, “Rydyn ni wrth ein bodd o gyhoeddi ein bod ni, mewn ymateb i adborth trigolion, wedi gweithio gyda thîm digwyddiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a byddwn ni'n cyflwyno digwyddiad sy'n cael ei ariannu ar y cyd ar ddydd Sadwrn 13 Mai 2023. Bydd y digwyddiad hwn yn golygu cau'r ffordd yn llwyr yng nghanol y dref a bydd e'n cynnwys adloniant, reidiau i'r plant, gweithgareddau i'r teulu ac amrywiaeth o stondinau.”

Dim ond pedwar o'r digwyddiadau gwych sy'n cael eu cynnig gan Fwrdeistref Sirol Caerffili eleni yw'r rhain. Bydd rhaglen lawn o ddigwyddiadau 2023 yn cael ei chyhoeddi yn y dyfodol agos a bydd gwybodaeth ar gael yn www.visitcaerphilly.com a sianeli cyfryngau cymdeithasol Croeso Caerffili.

Hysbysiad Pwysig i Drigolion a Manwerthwyr – Gwybodaeth am y Digwyddiad a Chau Ffyrdd 

Mae'r rhaglen o ddigwyddiadau'n cael ei hariannu gan Gyngor Caerffili, gyda llawer ohonyn nhw'n cael cymorth ariannol neu arian cyfatebol gan y cynghorau tref a chymuned lleol. Am y ddwy flynedd nesaf, bydd y digwyddiadau'n cael cymorth sylweddol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.


 


Ymholiadau'r Cyfryngau