News Centre

Cynlluniau cyffrous i ymestyn ysgol yn cael eu datgelu

Postiwyd ar : 23 Maw 2023

Cynlluniau cyffrous i ymestyn ysgol yn cael eu datgelu

Mae cynlluniau manwl i ymestyn ysgol arbennig flaenllaw yn Ystrad Mynach wedi cael eu datgelu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yr wythnos hon.

Cafodd cynigion amgen ar gyfer ehangu Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod eu cyhoeddi ym mis Hydref y llynedd, yn dilyn pryderon y byddai'r cynlluniau gwreiddiol wedi arwain at golli cae chwaraeon cyfagos.

Mae delweddau trawiadol yn dangos estyniad deulawr newydd lliwgar o fewn cynllun safle presennol yr ysgol, er mwyn darparu 80 o leoedd ychwanegol, yn ogystal â chyfleusterau ychwanegol. 

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg, “Mae’r cynlluniau cyffrous hyn yn arwydd o gyfnod newydd i’r ysgol flaenllaw hon a hefyd yn dangos yn glir nad yw’r cynllun yn cael effaith ar y cae chwarae cyfagos.”

Fe wnaeth Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, groesawu'r newyddion hefyd, "Yn ôl yr addewid, bydd y datrysiad hwn yn fuddiol i bawb dan sylw – bydd yr ysgol yn manteisio ar estyniad mawr ei angen, a bydd y gymuned yn cadw man gwyrdd gwerthfawr."

Yn ôl y cynlluniau, mae angen cyfleusterau parcio ychwanegol ac, felly, mae dwy ardal wedi cael eu nodi:
Mae'r cyntaf yn ddarn o dir wrth ymyl safle presennol yr ysgol. Bydd angen cael gwared ar nifer fach o goed, ond bydd y rhain yn cael eu hailblannu gerllaw.

Mae'r ail ardal ar ochr ddeheuol y cae rygbi, lle mae cynwysyddion cludo ar hyn o bryd. Bydd mannau parcio ‘gwyrdd’ yn cael eu darparu gan ddefnyddio dull 'dim palu' na fydd yn gwneud drwg i wreiddiau’r coed ac yn caniatáu i ddŵr glaw ddraenio. 

Mae’r cynllun ymestyn yn cael ei ddarparu fel rhan o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Band B) Llywodraeth Cymru ac mae disgwyl i Gabinet y Cyngor ystyried cymeradwyo cyllid terfynol y mis nesaf.

Gan nad yw'r cynigion diwygiedig hyn yn darparu cymaint o gyfleusterau ychwanegol â'r cynlluniau gwreiddiol, mae'r Cyngor hefyd yn ymchwilio i opsiwn mwy hirdymor i greu ail ysgol arbennig yn y Fwrdeistref Sirol o dan Fand C y rhaglen.



Ymholiadau'r Cyfryngau