Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mawrth 2023
Arweinydd y Cyngor wedi'i groesawi yn efelychydd trên cyn lansiad trên newydd
News Centre
Arweinydd y Cyngor wedi'i groesawi yn efelychydd trên cyn lansiad trên newydd
Postiwyd ar : 29 Maw 2023
Ymwelodd Arweinydd y Cyngor, Sean Morgan, ag efelychydd trên Trafnidiaeth Cymru yn ddiweddar.
Digwyddodd yr ymweliad ddyddiau cyn lansiad swyddogol trenau newydd sbon Metro De Cymru ar linell Cwm Rhymni ar ddydd Mercher 29 Mawrth.
Mae'r Trenau Dosbarth 231 Fast Light Intercity and Regional Trains (FLIRTs), sydd wedi'u hadeiladu gan y gwneuthurwr blaenllaw, Stadler, yn rhan o'r buddsoddiad gwerth £800 miliwn mae Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud mewn trenau newydd sbon ar gyfer rhwydwaith Cymru a'r Gororau.
Gan ddarparu capasiti mwy gyda rhagor o seddi wedi'u gwella, aerdymheru modern, socedi pŵer a sgriniau gwybodaeth i deithwyr gyda'r wybodaeth teithio ddiweddaraf, bydd y trenau newydd yn trawsnewid profiad y cwsmer.
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno 35 o’r trenau hyn ledled De Cymru dros y blynyddoedd nesaf, ynghyd â 36 o drenau tram trydan.
Bydd gan bob trên le ar gyfer hyd at chwe beic a modd mynd ar y trên ar yr un lefel a'r platfform sy'n awtomatig i gynorthwyo'r rhai â symudedd cyfyngedig.
Meddai Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd gyda chyfrifoldeb dros drafnidiaeth, “Mae teithio ar y cerbydau newydd hyn yn brofiad mor wahanol i deithio ar yr hen gerbydau. Mae yna ragor o le, mae'n llawer mwy cyfforddus ac mae'n dawelach ac yn llyfnach. Dewch i roi cynnig arnyn nhw.”
Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru, “Dyma garreg filltir allweddol arall i Trafnidiaeth Cymru, a bydd y trenau Dosbarth 231 newydd sbon hyn yn trawsnewid profiad y cwsmer ac yn arwydd o gyflawniad cyntaf Metro De Cymru. Mae pobl bellach yn dechrau gweld trawsnewid ar draws ein rhwydwaith gyda chyflwyno trenau modern, newydd sbon a fydd yn denu pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus."
Ychwanegodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd y Cyngor, "Mae'n wych gweld lansiad trenau newydd sbon Metro De Cymru, y trenau newydd sbon cyntaf i gael eu cyflwyno i'r gwasanaeth yn Ne Cymru ers nifer o ddegawdau. Bydd y prosiect pwysig hwn yn fudd i deithwyr ledled y Fwrdeistref Sirol a thu hwnt yn ardal Prifddinas-Ranbarth Caerdydd."
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Trawsnewid bywydau trwy brosiect Allweddi Caerffili
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn diolch i drigolion am eu rhan mewn treial ailgylchu gwastraff bwyd llwyddiannus
Gwasanaeth teleofal Caerffili yn mynd yn ddigidol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn sefydliad Llythrennedd Carbon Lefel Efydd yn swyddogol
Rhy dda i fod yn wir?
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y