News Centre

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Ymweld â Phentref Gerddi newydd ym Mhontllan-fraith

Postiwyd ar : 28 Maw 2023

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Ymweld â Phentref Gerddi newydd ym Mhontllan-fraith
Roedd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Dai, wedi'i ymuno gan y Cynghorydd Sean Morgan,  Chynghorwyr ward lleol Colin Gordon, Mike Adams, Pat Cook ac aelodau eraill Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am daith o gwmpas datblygiad Pentref Gerddi'r Siartwyr ym Mhontllan-fraith, gyda'r prif ddatblygwr, Lovell a'i bartner Pobl Group.

Mae Pentref Gerddi'r Siartwyr yn gynllun dylunio ac adeiladu sy'n cael ei gyflawni gan Lovell ar hen safle swyddfeydd y Cyngor ac sy'n cynnwys 123 o gartrefi a fydd yn cynnwys 40 o gartrefi ag un, dwy, tair a phedair ystafell wely i'w gwerthu ar y farchnad agored, 40 o gartrefi rhanberchenogaeth fforddiadwy, a 43 o dai fforddiadwy i'w rhentu.

Mae'r datblygiad wedi'i ddylunio ar sail egwyddorion Pentref Gerddi, sy'n cyfuno dylunio traddodiadol â chrefftwaith cyfoes. Mae Pentrefi Gerddi yn creu lleoedd bywiog ac iach i fyw sydd wedi'u dylunio'n dda gyda thai fforddiadwy a mannau agored gwyrdd.

Ar ddydd Llun 20 Mawrth, roedd cynghorwyr a staff Cyngor Caerffili wedi cwrdd â Lovell a Pobl ym Mhentref Gerddi'r Siartwyr, lle gawson nhw daith o gwmpas y safle, yr ystafell marchnata a chafodd ei lansio yn ddiweddar, a chartref arddangos 'Humberstone' â phedair ystafell.

Mae disgwyl i'r cartrefi cyntaf fod yn barod yr haf hwn, a gall prynwyr posibl gofrestru eu diddordeb nawr.
Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau yn ystod haf 2024. Mae'r prosiect yn rhoi cyfanswm o dros 6 lleoliad prentisiaeth a 128 wythnos o brofiad gwaith i bobl leol.

Meddai'r Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Dai, "Bydd y datblygiad cyffrous hwn yn rhoi cartrefi o ansawdd uchel, mawr eu hangen, yn ogystal â darparu buddion ehangach i gymunedau lleol trwy'r bartneriaeth gryf sydd wedi'i datblygu rhwng y Cyngor, Pobl a Lovell." 

Ychwanegodd Sean Morgan, Arweinydd Cyngor Caerffili, "Mae Pentref Gerddi'r Siartwyr yn ddatblygiad blaenllaw sy'n arddangos yr hyn sy’n gallu cael ei wneud trwy weithio mewn partneriaeth.  Mae'n wych i weld y safle yn datblygu a hoffwn i ddweud diolch i Lovell a Pobl am ein gwahodd ni lawr heddiw."

Dywedodd James Duffett, rheolwr gyfarwyddwr rhanbarthol Lovell, “Rydyn ni'n falch iawn o ddechrau'r gwaith ar y cynllun tai anhygoel hwn ym Mhontllan-fraith ac yn edrych ymlaen at drawsnewid y safle tir llwyd yn Bentref Gerddi ffyniannus lle bydd preswylwyr yn cael budd o le gwell a thirweddau cyfagos o goed stryd, lleiniau glas, pwll dŵr a mannau gwyrdd agored cyhoeddus. 
 
“Roedd yn wych i allu dangos Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili'r gwaith caled rydyn ni wedi’i wneud ar y safle hyd yn hyn. Ar ôl ei gwblhau, bydd Pentref Gerddi'r Siartwyr yn gartref wych i'r bobl leol. Mae'r datblygiad hwn yn enghraifft berffaith o sut mae gweithio mewn partneriaethau yn gallu bod yn fuddiol i'r gymuned, ac rydyn ni wedi ymrwymo i gynnal safon uchel o waith nes bydd y safle wedi'i gwblhau."
 
Meddai Rhys Parry, Cyfarwyddwr Datblygu (Dwyrain) Pobl Group, "Roedd yn hyfryd croesawu cynrychiolwyr y Cyngor i Bentref Gerddi'r Siartwyr a dangos iddyn nhw'r cynnydd sydd wedi'i wneud ar y safle hyd yn hyn. Rydyn ni'n falch i fod yn cydweithio â Lovell ar y prosiect hwn i roi cartrefi fforddiadwy, o safon uchel ble mae pobl eisiau byw. Rydyn ni'n ddiolchgar am y gefnogaeth barhaus gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, hebddyn nhw ni fyddai datblygiadau fel hyn yn bosibl."

I gael rhagor o wybodaeth am Bentref Gerddi'r Siartwyr a'r cartrefi sydd ar gael. 


Ymholiadau'r Cyfryngau