News Centre

Sinema Maxime, Coed Duon, wedi'i chynorthwyo gan Gronfa Fenter Caerffili’r Cyngor

Postiwyd ar : 30 Maw 2023

Sinema Maxime, Coed Duon, wedi'i chynorthwyo gan Gronfa Fenter Caerffili’r Cyngor
Sinema Maxime yw'r sinema annibynnol ar y Stryd Fawr, Coed Duon, sydd wedi bod yn gweithredu ers 2007.

Mae'r sinema’n darparu ar gyfer pob demograffeg  oedran, gydag amrywiaeth wych o fwyd a diod ar gael, gan gynnwys bar trwyddedig, sy'n ei wneud yn lleoliad gwych ar gyfer adlonni'r gymuned gyfan. Mae Maxime hefyd yn gyflogwr mawr yn yr ardal, gan gyflogi dros 10 aelod o staff amser llawn a 12 aelod o staff rhan-amser.

Wedi cael eu heffeithio dros y 2 blynedd diwethaf oherwydd cau o ganlyniad i COVID, maen nhw'n dechrau ail adeiladu'r niferoedd o gwsmeriaid ers i'r cyfyngiadau cael eu codi. Cyn COVID, roedden nhw'n denu dros 350,000 o ymwelwyr, a oedd hefyd wedi helpu cynyddu'r nifer o ymwelwyr yng Nghoed Duon a chynnal twf y busnesau eraill sydd wedi'u lleoli yno. Wrth i'r diwydiant ffilm ddychwelyd i ddarparu ffilmiau poblogaidd 'rhaid eu gweld', mae'r niferoedd o ymwelwyr yn barod wedi cyrraedd tua 230,000, ac maen nhw'n disgwyl llawer mwy.

Roedd y perchennog, Steve Reynolds, yn edrych am gymorth grant i osod lloriau newydd yn yr holl sinema am resymau iechyd a diogelwch; roedd rhai o'r lloriau yn dechrau disgyn wrth ymyl y mannau eistedd mewn rhai o'r ystafelloedd sgrîn. Roedd hefyd angen cyllid er mwyn gosod ymylon blaen wedi'u goleuo gan oleuadau LED ar risiau ym mhob ystafell sgrîn sinema er mwyn sicrhau diogelwch cwsmeriaid pan mae'r goleuadau wedi'u tywyllu.  Roedden nhw'n teimlo bydd y gwelliannau hyn yn helpu nid yn unig gyda diogelwch cwsmeriaid tra'u bod nhw yn y safle ond hefyd helpu gyda golwg a naws yr adeilad.

Cafodd Sinema Maxime £22,000 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig. Rhoddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili'r grant hwn i Sinema Maxime o gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.

Meddai'r perchennog, Steve Reynolds, "Mae'r cymorth gan Lauren a Sally yng Nghyngor Caerffili i wneud cais a chael grant Cronfa Fenter Caerffili wedi bod yn gam bwysig tuag at wella ein profiad cwsmeriaid a'n galluogi ni i gadw ein prisoedd yn isel. Bydd ein hymrwymiad i Goed Duon a gwneud y sinema yn un sy'n canolbwyntio ar y gymuned yn parhau i fynd o nerth i nerth."

Meddai'r Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, "Mae sinema Maxime yng Nghoed Duon yn drysor wrth galon y Fwrdeistref Sirol. Rydyn ni wedi bod wrth ein boddau yn cynorthwyo'r busnes â grantiau sydd wedi'u helpu nhw i roi profiad pleserus i bawb yn y lleoliad".

Am ragor o wybodaeth am y cymorth busnes sydd ar gael, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:
Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu, Tŷ Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach CF82 7WF.
E-bost: Busnes@caerffili.gov.uk
Ffôn: 01443 866220


Ymholiadau'r Cyfryngau