News Centre

Grantiau newydd ar gael i grwpiau cymunedol Caerffili

Postiwyd ar : 08 Maw 2022

Grantiau newydd ar gael i grwpiau cymunedol Caerffili
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi lansio dau grant newydd, sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, sydd ar gael i grwpiau cymunedol wneud cais amdanyn nhw.
 
Mae'r Gronfa Byw'n Iach hefyd wedi cael ei chefnogi gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Nod y gronfa yw darparu cymorth o ran cymorth i gartrefi, fel grantiau refeniw i helpu banciau bwyd a grwpiau cymunedol lleol i fynd i'r afael â thlodi tanwydd.
 
Mae Grant Unigrwydd ac Ynysigrwydd hefyd ar gael a fydd yn cael ei ddefnyddio er budd gweithgareddau cymunedol, a chynyddu gallu a chynaliadwyedd mudiadau gwirfoddol rheng flaen ar lawr gwlad, i ddod â phobl o bob oed ynghyd a'u helpu nhw i feithrin cysylltiadau cymdeithasol.
 
I gael rhagor o wybodaeth am y grantiau, cysylltwch â thîm Gofalu am Gaerffili y Cyngor ar 01443 811490 neu GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau