News Centre

Artist lleol yn rhoi paentiad i Hwb Dysgu Cymunedol arfaethedig Idris Davies

Postiwyd ar : 22 Maw 2022

Artist lleol yn rhoi paentiad i Hwb Dysgu Cymunedol arfaethedig Idris Davies
Mae’r artist lleol, Roy Guy, wedi rhoi portread o’r bardd, Idris Davies, i Lyfrgell Rhymni i baratoi ar gyfer Hwb Dysgu Cymunedol arfaethedig Idris Davies.

Fe wnaeth Roy Guy o Art and Soul, artist llwyddiannus o Gymru sydd wedi cael y pleser o beintio enwogion fel Dylan Thomas, Vernon Watkins, Anthony Hopkins, Richard Burton a Michael Sheen, ailddarganfod paentiad olew yr oedd wedi’i greu o’r bardd o Gymru, Idris Davies, yn ei atig a chysylltodd â Chyngor Cymuned Rhymni gyda'r nod o'i roi i adeilad lleol.

Yr wythnos hon, mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cytuno’n unfrydol ar gynlluniau i ailddatblygu Llyfrgell Tref Rhymni fel Hwb Dysgu a Chymorth Cymunedol a fydd yn darparu mynediad at wasanaethau lluosog y Cyngor ac yn galluogi mynediad at bartneriaid sector cyhoeddus fel Heddlu Gwent, yn ogystal â gwasanaethau llyfrgell. Mae'r cynlluniau hefyd yn darparu defnydd o'r ystafelloedd wedi'u hailgyflunio ar gyfer mannau gweithio/cyfarfod cymunedol a hybrid.

Mae'r cynllun arfaethedig yn cynnwys cynllun wedi'i ailgynllunio i'r ddau lawr, lifft wedi'i uwchraddio, mannau cyfarfod, ystafelloedd cymunedol, hyfforddiant digidol a chyfleusterau fideo-gynadledda, Wi-Fi wedi'i uwchraddio, lolfa gliniaduron gyhoeddus a lle newydd i blant, yn ogystal â chasgliad Cymraeg/Cymreig gydag ardal wedi'i neilltuo ar gyfer y Gymraeg a gwelliannau tuag at gyflawni bwriad y Cyngor i fod yn carbon niwtral, gan gynnwys cynnal astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn y maes parcio cyhoeddus.

Bydd yr Hwb Dysgu a Chymorth Cymunedol hefyd yn cadw ac yn arddangos casgliad Idris Davies, sydd eisoes yn cael ei arddangos yn Llyfrgell Rhymni, a bydd paentiad Roy Guy yn cael ei ychwanegu ato.

Dywedodd Roy Guy, “Roedd gen i’r paentiad o Idris Davies yn fy atig am nifer o flynyddoedd ac, felly, roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n bryd iddo ddod o hyd i gartref. Roeddwn i eisiau iddo gael ei arddangos yn yr ardal y cafodd Idris Davies ei eni, felly, rwy’n hapus iawn y bydd yn cael ei arddangos yn Rhymni nawr, ychydig ar draws y stryd o gartref ei deulu.”

Dywedodd y Cynghorydd Carl Cuss, Aelod o’r Cyngor Lleol, “Yn gyntaf, hoffwn i ddiolch i Mr Guy am ei rodd, mae'r Cynghorydd David Harse a minnau’n ddiolchgar iawn i dderbyn hwn.

"Rydyn ni'n gyffrous iawn am y cynlluniau arfaethedig ar gyfer Llyfrgell Rhymni. Bydd yr Hwb Dysgu a Chymorth Cymunedol yn ased i’r gymuned gyfan.

“Mae allgau digidol yn uwch yn yr ardal nag ardaloedd eraill o’r Fwrdeistref Sirol a’r bwriad yw darparu band eang gwell, lolfa gliniadur a chyfleusterau fideo-gynadledda sy'n gallu cael eu defnyddio gan wasanaethau mewnol, partneriaid allanol, plant/pobl ifanc a thrigolion lleol.”

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen Llunio Lleoedd, ewch i: www.caerphillyplaceshaping.co.uk/
 
 


Ymholiadau'r Cyfryngau