News Centre

Cymeradwyo Canolfan Ymwelwyr Parc Penallta

Postiwyd ar : 09 Maw 2022

Cymeradwyo Canolfan Ymwelwyr Parc Penallta
Heddiw (9 Mawrth), mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo cynlluniau i ddatblygu ac adeiladu canolfan ymwelwyr newydd ym Mharc Penallta, Ystrad Mynach.
 
Bydd y ganolfan ymwelwyr amlbwrpas newydd yn cael ei chyflawni mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Bydd yn gweithredu fel canolbwynt cymunedol a phorth darganfod ar gyfer y fenter Parc Rhanbarthol y Cymoedd ac yn darparu cartref posibl ar gyfer y ‘cynllun gwarcheidwaid’. Bydd yn cynnwys cyfleusterau addysg a chynadledda, caffi, toiledau, cawodydd, ac yn gweithredu fel canolbwynt iechyd a lles.
 
Mae cynaladwyedd a diogelu at y dyfodol yn rhan o'r dyluniadau ar gyfer y ganolfan; mae'n defnyddio deunyddiau adeiladu lleol, fel pren llarwydd wedi'i dorri ym Mharc Penallta. Bydd y pren yn cael ei sesno a'i felino'n lleol i fodloni rhagofynion priodol ar gyfer cladin, fel rhan o Brosiect Datblygu Gwledig Wood Lab Pren.
 
Meddai'r Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet y Cyngor sydd â chyfrifoldeb am barciau a chefn gwlad, “Parc Penallta yw un o barciau gwledig mwyaf poblogaidd y Fwrdeistref Sirol, a bydd ychwanegu canolfan o'r radd flaenaf yn hybu profiad ymwelwyr.
 
“Bydd ychwanegu at y parc gwledig hwn yn atgyfnerthu pwysigrwydd ein hamgylchedd a'n tirwedd, iechyd a lles ein cymunedau, ac yn cyfrannu at hunaniaeth gref Bwrdeistref Sirol Caerffili, Parc Rhanbarthol y Cymoedd a Chymru gyfan.”

“Mae defnyddio cadwyni cyflenwi lleol hefyd yn bwysig i ni drwy wneud y mwyaf o'r buddsoddiad a chreu effaith lluosydd yn ein heconomi leol.” 


Ymholiadau'r Cyfryngau