News Centre

Grwpiau cymunedol Caerffili yn elwa ar grantiau gwerth dros £16,000

Postiwyd ar : 07 Maw 2022

Grwpiau cymunedol Caerffili yn elwa ar grantiau gwerth dros £16,000
Fe wnaeth grwpiau cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili elwa ar grantiau gwerth £16,660 rhwng mis Hydref 2021 a mis Ionawr 2022.

Fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili weinyddu'r grantiau hyn trwy ei gyllideb Grantiau'r Sector Gwirfoddol a chynllun Cronfa Deddf Eglwys Cymru. Cafodd diweddariad am y gwariant hwn ei roi i Banel Grantiau i'r Sector Gwirfoddol y Cyngor yn ystod cyfarfod o bell yn ddiweddar.

Ymhlith y grantiau a gafodd eu dyrannu trwy Ddyfarniadau Meini Prawf Cyffredinol y Cyngor roedd cymorth i amrywiaeth o grwpiau cymunedol, gan gynnwys Cymdeithas Pensiynwyr Cefn Hengoed, Grŵp Hanes Cwm Darran, Cymdeithas Gelf Bargod a'r Cylch, Clwb Camerâu Cymoedd y Gorllewin, Theatr y Players, a Brownis ac Enfysau Trinant. Fe wnaeth sawl unigolyn hefyd gael cymorth grant i gynrychioli Cymru ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol.

Fe wnaeth Cronfa Deddf Eglwys Cymru ddarparu arian i Brosiect Cymunedol Capel Hengoed i adeiladu llwybr hygyrch o amgylch y fynwent. Cafodd Eglwys y Santes Farged, Coed Duon, arian i atgyweirio'r waliau mewnol ac ailaddurno. Fe wnaeth Eglwys y Bedyddwyr, Bethel, Pen-yr-heol, elwa ar oleuadau newydd yn y brif neuadd, oherwydd y Gronfa.

Meddai'r Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet y Cyngor dros Berfformiad, yr Economi a Menter, “Mae grwpiau gwirfoddol yn chwarae rhan amhrisiadwy yn ein cymdeithas; maen nhw'n helpu ein pobl fwyaf agored i niwed ac yn helpu creu cymunedau cydlynus a chynhwysol. Mae'n braf gweld amrywiaeth mor eang o brosiectau yn cael cymorth yn ystod y cylch ariannu diwethaf, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at helpu llawer rhagor yn y dyfodol.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael i grwpiau cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ewch i.


Ymholiadau'r Cyfryngau