News Centre

Plannu 5,000 o goed ar gyfer Wythnos Plannu Coed

Postiwyd ar : 07 Maw 2022

Plannu 5,000 o goed ar gyfer Wythnos Plannu Coed
Bydd disgyblion ysgolion cynradd a grwpiau gwirfoddol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn plannu 5,000 o goed rhwng 7 ac 11 Mawrth i ddathlu Wythnos Plannu Coed ac i geisio mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.

Mae'r gwaith plannu coed yn cael ei drefnu gan y grŵp Mannau Gwyrdd, a dyma ddechrau taith ddatgarboneiddio Caerffili er budd cynefinoedd lleol a bioamrywiaeth, ac mae'n cyfrannu at uchelgeisiau plannu coed Llywodraeth Cymru.

Bydd disgyblion o Goleg Ystrad Mynach ac Ysgol Gynradd Ystrad Mynach yn ymuno â Cheidwaid Cefn Gwlad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar Fferm Ynys Hywel, Wattsville.

Yn 2019, fe ddaeth y Cyngor yr ail un yng Ngwent i ddatgan argyfwng hinsawdd ac ymrwymo i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030. Trwy blannu coed yn ystod Wythnos Plannu Coed, mae'r awdurdod yn mynd ati i ategu'r datganiad hwn gan fod coed yn helpu amsugno carbon.

Mae coed yn helpu cael gwared â'r nwy tŷ gwydr, carbon deuocsid, o'r aer, gan helpu lleihau cynhesu byd-eang. Dros nifer o flynyddoedd, mae coed wedi cael eu torri i lawr yng Nghymru gan adael dim ond 16% yn ardaloedd coetir, o'i gymharu â'r mwyafrif o wledydd Ewropeaidd sydd â 30%.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Whitcombe, Aelod Cabinet dros Gynaliadwyedd, “Mae mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, cynyddu cynaliadwyedd a gwarchod ein hamgylchedd er budd cenedlaethau'r dyfodol yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor, ac rydyn ni'n gwneud gwaith sylweddol i ddelio â'r mater hwn. Mae prosiectau sy'n digwydd yn sgil digwyddiadau, fel Wythnos Plannu Coed, yn bwysig o ran helpu ein hamgylchedd, ond hefyd wrth ymgysylltu â'n pobl ifanc a'n cymunedau lleol; gan godi ymwybyddiaeth o'r newid yn yr hinsawdd, a'r rôl y mae'n rhaid i ni i gyd ei chwarae wrth fynd i'r afael ag ef.”


Ymholiadau'r Cyfryngau