Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio gyda Sustrans Cymru fel rhan o ymgynghoriad ynghylch Map Rhwydwaith Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
Bydd y Cyngor yn defnyddio canfyddiadau'r ymgynghoriad i uwchraddio a chreu llwybrau cerdded a beicio newydd, gan wneud teithiau ar droed neu ar feic yn haws ac yn fwy diogel i bawb. Bydd llwybrau teithio llesol newydd a gwell hefyd yn annog mwy o bobl i ddefnyddio dulliau teithio llesol ar gyfer teithiau lleol; gan leihau traffig a gwella ansawdd aer.
I fynegi eich barn ar y rhwydwaith teithio llesol presennol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ewch i
https://caerphilly.commonplace.is/?lang=cy-GB; mae rhagor o wybodaeth ar gael hefyd drwy e-bostio
TeithioLlesol@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866595. Bydd yr arolwg yn cau ar 10 Mawrth.