News Centre

Cymorth ar gael i aelwydydd Caerffili i wella effeithlonrwydd ynni

Postiwyd ar : 07 Meh 2023

Cymorth ar gael i aelwydydd Caerffili i wella effeithlonrwydd ynni
Mae cymorth bellach ar gael i wella effeithlonrwydd ynni aelwydydd cymwys ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio gyda chwmnïau ynni a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd (sy’n cynrychioli deg awdurdod lleol De-ddwyrain Cymru) i gynorthwyo aelwydydd mewn cartrefi sydd wedi’u hinswleiddio’n wael, er mwyn eu gwneud nhw'n fwy effeithlon o ran ynni a helpu i leihau effaith cynnydd mewn biliau ynni. 

Fel rhan o gynlluniau cenedlaethol ECO4 a Hyblygrwydd ECO, bydd EDF a chwmnïau ynni eraill yn buddsoddi mewn cynlluniau cymunedol effeithlonrwydd ynni i gynorthwyo cartrefi ‘tlawd o ran tanwydd’ a’r aelwydydd hynny sy’n cynnwys unigolion â chyflyrau iechyd sy’n cael eu gwaethygu o fyw mewn cartref oer.  

Trwy ei bartneriaeth â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd ac EDF, mae Cyngor Caerffili yn annog ceisiadau gan aelwydydd yn y Fwrdeistref Sirol sy’n: 
  • Byw mewn cartrefi nad ydynt ar y grid nwy mewn ardaloedd gwledig 
  • Cynnwys unigolion â chyflyrau iechyd penodol 
  • Cael cymorth lles, neu 
  • Sydd ag incwm aelwyd o dan £31,000 
ac 
  • Yn berchen ar gartref nad yw'n ynni-effeithlon (hynny yw â Thystysgrif Perfformiad Ynni Band E, F neu G), neu'n rhentu cartref o'r fath yn breifat.   

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet Cyngor Caerffili dros Dai, “Yn ystod yr argyfwng costau byw presennol, mae'r cynnydd mewn biliau ynni yn bryder i lawer o drigolion. Nod y cynllun hwn yw cynorthwyo’r rhai sydd wedi'u heffeithio fwyaf, ac rwy’n annog aelwydydd sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd i gysylltu â ni.” 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â gosodwr enwebedig EDF ar gyfer y cynllun hwn, City Energy, drwy fynd i wefan City Energy neu ffonio 02920 499 183. 


Ymholiadau'r Cyfryngau