News Centre

Cam Olaf Ymgynghoriad Cyfnewidfa Caerffili yn Dechrau

Postiwyd ar : 06 Meh 2023

Cam Olaf Ymgynghoriad Cyfnewidfa Caerffili yn Dechrau

Mae cynnig Cyfnewidfa Caerffili y mae disgwyl mawr amdano wedi cychwyn ar ei drydydd cam, sef y cam olaf, o ymgynghori ac ymgysylltu â’r cyhoedd. 

Gan dynnu ar lwyddiant yr ymgynghoriad Cam 2 blaenorol, a oedd yn canolbwyntio ar gasglu mewnwelediadau ynghylch cynllunio a gweithredu'r safle, mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud wrth fireinio’r cynnig. Mae’r cynnydd hwn wedi cael ei arwain gan yr adborth amhrisiadwy a gafodd ei ddarparu gan drigolion yn ystod y broses ymgysylltu flaenorol.

Mae cam diweddaraf yr ymgynghoriad yn gofyn, unwaith eto, am farn trigolion o ran y cynigion diwygiedig ar gyfer y gyfnewidfa newydd.

Drwy gydol yr ymgynghoriad hwn, bydd model o'r cynllun arfaethedig ar gael i drigolion ei weld yn Llyfrgell Caerffili. Mae trigolion a rhanddeiliaid lleol yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn yr arddangosfa hon, sydd â’r nod o gyflwyno’r cynigion terfynol ar gyfer y Gyfnewidfa a thynnu sylw at adborth gan y gymuned sydd wedi helpu i lywio’r cynlluniau hyn.

Mae'r arddangosfa ar gael naill ai drwy ymweld â Llyfrgell Caerffili neu ar-lein yma.

Bydd y gyfnewidfa arfaethedig yn trawsnewid y ffordd y mae pobl yn teithio i Gaerffili ac yn ôl. Bydd yn cysylltu pobl yn rhwydd â threnau, bysiau, tacsis ac opsiynau teithio llesol. Bydd y broses ymgynghori ar agor rhwng 5 a 16 Mehefin.

Meddai Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd,

"Mae cam olaf yr ymgynghoriad am y gyfnewidfa drafnidiaeth yn cynnig cyfle arall i drigolion mynegi eu barn. Bydd y Gyfnewidfa Caerffili yn dod yn nodwedd amlwg y dref, gan wella'r apêl i ymwelwyr am genedlaethau’r dyfodol.

“Mae’r prosiect hwn yn ychwanegu at gynllun ehangach Creu Lleoedd Caerffili 2035, ochr yn ochr â mentrau allweddol eraill fel marchnad Ffos Caerffili yng nghanol y dref.

“Unwaith eto, rwy’n eich annog chi i archwilio’r cynlluniau arfaethedig a manteisio ar y cyfle i ddweud eich dweud wrth lywio dyfodol ein Bwrdeistref Sirol.”

Ar gyfer preswylwyr sydd ag unrhyw ofynion penodol megis mynediad, dolen glyw, angen cyfleusterau cyfieithu neu sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y digwyddiad, cysylltwch â ni ar 07933 174352 neu ymgynghori@caerffili.gov.uk.

I lenwi'r arolwg neu i ddarganfod rhagor amdano, ewch i https://trafodaeth.caerphilly.gov.uk/cyfnewidfa-caerffili-ymgynghoriad-cyhoeddus-cam-3



Ymholiadau'r Cyfryngau