News Centre

Capital Cuisine: Y cynhyrchydd bwyd Artisan wedi'i gynorthwyo â chyllid i ehangu cynhyrchu bwydydd arbenigol

Postiwyd ar : 06 Meh 2023

Capital Cuisine: Y cynhyrchydd bwyd Artisan wedi'i gynorthwyo â chyllid i ehangu cynhyrchu bwydydd arbenigol
Mae Capital Cuisine wedi bod yn cynhyrchu amrywiaeth o gynhyrchion bwyd artisan ar gyfer y diwydiant lletygarwch craff ers dros 12 mlynedd, gan gynnwys pâté, terinau, siytni, pesto, sawsiau, a dresinau o’r ansawdd a geir mewn bwytai. Maen nhw bellach wedi dychwelyd i’w gwreiddiau gweithgynhyrchu gwreiddiol fel sylfaenwyr y Barons Patisserie gwreiddiol ac wedi ychwanegu amrywiaeth o gacennau hambwrdd a brownis ar gyfer y sectorau siopau coffi, caffis a gwestai o dan y brand Tray Bakers.

Gan ddefnyddio dulliau traddodiadol o wneud â llaw a ryseitiau unigryw wedi'u datblygu dros y blynyddoedd gan y perchennog Colin Gray a'r tîm, mae'r ansawdd heb ei ail. Mae llawer o’r hyn sy’n cael ei gynhyrchu yn cael ei ddosbarthu trwy eu partneriaid gwasanaeth bwyd ledled y DU, i Lundain a thu hwnt, wrth aros yn driw i’n gwreiddiau ni, mae ein prif bartneriaid bwyd yng Nghymru yn sicrhau bod rhywfaint o'r cynnyrch yn aros yng Nghymru! Wedi'u lleoli yn eu ceginau cynhyrchu pwrpasol newydd yng Nghaerffili, sy'n mesur 6,000 o droedfeddi sgwâr maen nhw’n safleoedd sydd wedi'u hachredu gan SALSA, a’n gymeradwy ar gyfer cynhyrchion cig a physgod ac mae ganddyn nhw sgôr hylendid lleol Swyddog Iechyd yr Amgylchedd o 5*.

Mae’r busnes teuluol hwn wedi bod yn bartner dewisedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrth ddatblygu a gweithredu eu bwyty Gwir Flas Cymru blaenllaw ‘BLAS’ mewn gwyliau a digwyddiadau mawr ledled Cymru a’r Gorllewin. Enillodd y busnes nifer o wobrau gan gynnwys 2 Wobr Great Taste 2021 a Hyrwyddwr y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru 2022; maen nhw'n dangos ymroddiad i ansawdd a gwasanaeth.

Fe gafodd Capital Cuisine £17,900 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Rhoddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili'r cyllid hwn i Capital Cuisine o gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin. 

Cafodd y grant arian cyfatebol gan y cwmni i helpu gyda safleoedd newydd, goleuadau, a phopty rheseli newydd o'r radd flaenaf. Mae'r cymorth wedi helpu i ehangu'r busnes, gan gyflogi tri aelod newydd o staff, cynyddu trosiant a'r gallu i gyflawni contractau mwy.

Meddai'r perchennog, Colin Gray, “Mae cymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn allweddol i’n galluogi ni i fuddsoddi mewn offer newydd sydd wedi gwella’n gallu i gynhyrchu. Mae hyn wedi golygu cynnydd mewn trosiant, proffidioldeb, a chyfleoedd cyflogi. Ein rhagolwg eleni yw gweld cynnydd ymylol yn y trosiant, fodd bynnag, er gwaethaf yr hinsawdd economaidd bresennol rydyn ni bellach mewn gwell sefyllfa i fanteisio ar lawer o’r cyfleoedd yr ydyn ni wedi’u gwrthod o’r blaen.”

Wrth ymweld â’r busnes yn ddiweddar, roedd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, yn falch o weld yr offer newydd ar waith, gan ddweud “Mae gweld busnesau llwyddiannus, wedi’u lleoli yng Nghaerffili, yn fendigedig. Rwy’n falch iawn o weld bod Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu'r Cyngor wedi gallu helpu’r cwmni i foderneiddio a thyfu.”


Ymholiadau'r Cyfryngau