News Centre

Cartrefi arloesol newydd cyntaf Cyngor Caerffili wedi'u cwblhau

Postiwyd ar : 15 Meh 2022

Cartrefi arloesol newydd cyntaf Cyngor Caerffili wedi'u cwblhau
Mae gwaith wedi'i gwblhau ar y cartrefi newydd cyntaf sy'n cael eu datblygu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, fel rhan o raglen beilot tai arloesol.
 
Y chwe fflat un ystafell wely newydd, a ddatblygwyd ar safle'r hen Glwb 49 yn Nhrecenydd, yw'r cartrefi cyntaf i'r Cyngor eu hadeiladu ers bron i 20 mlynedd.
 
Mae'r holl gartrefi ar y datblygiad wedi'u hadeiladu i safon Passivhaus, sy'n cynnwys lefelau uchel iawn o insiwleiddio, ffenestri o safon perfformiad uchel iawn gyda fframiau wedi'u hinswleiddio, ffabrig adeilad aerglos a system awyru gwres mecanyddol. Yn ogystal â helpu i leihau allyriadau carbon, bydd yr adeiladau hyn yn arwain at gostau ynni isel i denantiaid ac yn cyfrannu at yr angen am dai yn y fwrdeistref sirol.
 
Y Cyngor yw'r cyntaf yng Nghymru i ddatblygu cartrefi i safon Passivhaus gan ddefnyddio cynllun primaframe dur arloesol unigryw. Mae’r prosiect wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â’r cwmni adeiladu profiadol Willmott Dixon a’r gwneuthurwr dur lleol o Ystrad Mynach, Caledan.
 
Mae cyllid o £3.1 miliwn wedi’i ddarparu gan Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru i gefnogi’r prosiect, a fydd hefyd yn gweld datblygiad Passivhaus deuddeg ystafell wely arall yn Llanfabon Drive, Trethomas.
 
Gwahoddwyd aelodau o’r gymuned leol i weld yr eiddo gorffenedig yn ddiweddar mewn digwyddiad arbennig, lle cafodd y cartrefi eu trosglwyddo’n swyddogol i’r Cyngor gan dîm Willmott Dixon.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet Tai’r Cyngor, “Mae hon yn garreg filltir enfawr i ni wrth gyflawni ein rhaglen adeiladu tai cyngor uchelgeisiol a hoffwn ddiolch i bawb a fu’n ymwneud â chyflawni hyn.
 
Mae ansawdd y cartrefi newydd hyn yn eithriadol a bydd eu dyluniad arloesol yn sicrhau bod biliau tanwydd tenantiaid y dyfodol yn cael eu cadw mor isel â phosibl, sy'n hollbwysig yn ystod costau ynni cynyddol a'r argyfwng costau byw presennol.
 
Ein nod yw defnyddio’r rhaglen beilot hon fel glasbrint ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol ac edrychaf ymlaen at groesawu ein tenantiaid newydd i’w cartrefi.”
 
Dywedodd Ian Jones, Cyfarwyddwr yn Willmott Dixon, “Gan weithio ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, rydyn ni’n falch iawn o weld y cartrefi yn Nhrecenydd yn cael eu cwblhau. Mae’r technegau gweithgynhyrchu arloesol sydd wedi’u defnyddio wedi ein galluogi i ddarparu cartrefi ynni isel o’r radd flaenaf i’r fwrdeistref a fydd yn helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a darparu cartrefi o ansawdd uchel i’r tenantiaid.”


Ymholiadau'r Cyfryngau