News Centre

Prosiect ‘Love Locks’ Llenwi Calon a Chariad

Postiwyd ar : 03 Meh 2021

Prosiect ‘Love Locks’ Llenwi Calon a Chariad
I ddathlu'r Llywodraeth yn llacio cyfyngiadau COVID-19, mae Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, wedi ymuno â NONaffArt i ddatgelu'r cerflun LOVE LOCKS, sydd yng nghanol Parc Manwerthu Coed Duon ar hyn o bryd, cyferbyn â'r cylch brics draig ac i ochr yr archfarchnad leol, ASDA. Cafodd y cynllun 'Love Locks' ei lansio ar 25 Ionawr 2021, sef dydd Santes Dwynwen.
 
Mae'r cerflun sydd wedi'i gomisiynu gan Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, yn coffáu ymdrechion yr holl gyfranogwyr a gymerodd ran yn y prosiect LOVE LOCKS yn ystod cyfyngiadau mis Ionawr. Nod y prosiect hwn oedd annog y gymuned i ddefnyddio eu dychymyg i roi bywyd newydd i hen gloeon clap wrth roi gweithgaredd hwyliog iddyn nhw i annog lles.
 
Cafodd 400 pecyn eu hanfon at grwpiau cymunedol, gan gynnwys partneriaid fel The Fusion Network, Eglwys Santes Gwladys, y Rhwydwaith Rhieni a Risca Volunteers. Mae'r prosiect hyd yn oed wedi mynd yn fyd-eang, gyda thri chlo clap yn dod o Arizona!
 
Mae'r cerflun trawiadol, LOVE LOCKS, sydd wedi'i ddylunio a'i greu gan NONaffArt, yn cwmpasu ac yn arddangos cloeau clap wedi’u haddurno gan holl gyfranogwyr y prosiect. Mae'r cerflun wedi'i greu gan ddefnyddio dur gyda phedair calon ar naill ochr coeden sydd wedi'i thorri â laser gan gwmni lleol o Gymru o'r enw Laser Labs, ym Mhen-y-bont, ac mae’r goeden symboleiddio coeden y bywyd. Nid yn unig y mae'r cerflun yn coffáu pawb a wnaeth gymryd rhan yn ystod y cyfyngiadau, ond hefyd yn cynnig lle i hongian rhagor o gloeau clap i aelodau'r gymuned  a allai fod wedi colli allan ar gyflwyno ar gyfer y prosiect.  
 
Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Dwristiaeth, "Mae'n wych cael gweithio gydag artistiaid lleol i greu a chynnal arddangosiad mor cymhellol yng Nghoed Duon. Mae'r prosiect hwn wedi dod â'r gymuned ynghyd i ddod yn rhan o greu hanes. Rwy'n sicr y bydd llawer o bobl yn mwynhau'r celfwaith hwn am flynyddoedd lawer. Llongyfarchiadau enfawr i bawb a oedd yn rhan o'r prosiect creadigol hwn!"
 
Dywedodd Tania Bryan, Cyfarwyddwr NONaffArt, “Yn draddodiadol, mae clo cariad yn symbol o gariad ac ymrwymiad mewn diwylliannau hynafol.   Roeddem ni am ddefnyddio thema cloeon nid yn unig am ei bod yn chwarae gyda’r syniad o ‘gyfnod clo’ ond hefyd oherwydd ei bod yn cynrychioli diogelwch a chariad, sydd mor bwysig i’n cymunedau yn ystod yr amser anodd hwn.”
 
'LLENWI CALON Â CHARIAD' Mae dal amser i aelodau'r gymuned gyfrannu at y prosiect trwy ymweld a hongian cloeon clap personol yn uniongyrchol ar y cerflun yng Nghoed Duon.
 
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â nonaffart@gmail.com neu SefydliadYGlowyrCoedDuon@caerffili.gov.uk
Facebook: www.facebook.com/love-LOCKS
 


Ymholiadau'r Cyfryngau