**Diweddariad ar waith ffordd – A472 trwy Hafodyrynys – Dydd Sul 6 Mehefin**
Postiwyd ar : 04 Meh 2021
Bydd y ffordd ar gau fesul dau gam:
Cam 1
Bydd y ffordd ar gau rhwng 7am a hanner dydd i osod cerrig mân ar wyneb y ffordd.
Yna, bydd y ffordd yn ailagor i draffig tan 6pm er mwyn caniatáu i'r cerrig mân sadio cyn gosod yr ail haen.
Bydd terfyn cyflymder 10mya ac arwyddion perygl sgidio ar waith. Bydd system gonfoi yn cael ei rhoi ar waith os na fydd gyrwyr yn cadw at y terfyn cyflymder er mwyn atal difrodi wyneb y ffordd.
Cam 2
Bydd y ffordd ar gau eto am 6pm i ganiatáu gwaith ysgubo, gosod ail haen, chwistrellu a gosod marciau ffordd. Bydd y ffordd yn ailagor ar ôl cwblhau'r gwaith a chyn 6am fore Llun 7 Mehefin.
Gwyriad ar hyd Ffordd Blaenau'r Cymoedd a'r A4065, mae llwybrau lleol ar gael o hyd.
Bydd cerbydau'r gwasanaethau brys yn cael mynd trwy ardal y gwaith ar bob adeg.
Noder: Bydd mynediad i Hafodyrynys trwy Gefn-y-pant hefyd ar gau, oherwydd natur y gwaith, ac er mwyn diogelwch y gweithlu a'r cyhoedd.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a tharfu yn ystod y gwaith hwn.