News Centre

Ymgynghoriad y Ddyletswydd Diogelu

Postiwyd ar : 04 Meh 2021

Ymgynghoriad y Ddyletswydd Diogelu
Mae'r Swyddfa Gartref yn ceisio barn ar sut gall y Ddyletswydd Diogelu wneud y cyhoedd yn fwy diogel mewn lleoliadau sy'n hygyrch i'r cyhoedd.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn agored i'r cyhoedd, ac mae wedi'i dargedu at leoliadau, sefydliadau, busnesau ac unigolion sy'n berchen ar neu'n gweithredu mewn lleoliadau sy'n hygyrch i'r cyhoedd neu eraill y gallai ‘Dyletswydd Diogelu’ effeithio arnynt o bosibl.

Diffinnir lleoliad sy'n hygyrch i'r cyhoedd fel unrhyw le y mae gan y cyhoedd neu unrhyw ran o'r cyhoedd fynediad iddo, trwy dalu neu fel arall, fel hawl neu yn rhinwedd caniatâd penodol neu ymhlyg.

Mae lleoliadau sy'n hygyrch i'r cyhoedd yn cynnwys amrywiaeth eang o leoliadau bob dydd megis stadia chwaraeon, gwyliau, lleoliadau cerdd, gwestai, tafarndai, clybiau, bariau a chasinos, siopau manwerthu, canolfannau siopa, ysgolion a phrifysgolion, canolfannau meddygol ac ysbytai, addoldai, ac ati.

Mae'r Swyddfa Gartref yn croesawu ymatebion gan unrhyw un sydd â diddordeb neu brofiad yn y meysydd yr ymgynghorir â hwy yn yr ymgynghoriad hwn. Mae'r arolwg yn debygol o gymryd tua 30 munud i'w lenwi ac mae'n cau am 11:45pm ar 2 Gorffennaf 2021.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.gov.uk/government/consultations/protect-duty


Ymholiadau'r Cyfryngau