News Centre

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn croesawu trigolion yn ôl

Postiwyd ar : 02 Meh 2021

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn croesawu trigolion yn ôl
Rydyn ni'n falch o gyhoeddi bod y Gwasanaeth Llyfrgelloedd, o ddydd Llun 7 Mehefin ymlaen, yn croesawu trigolion sydd eisiau pori'r silffoedd a dewis eu llyfrau eu hunain yn ôl i'n llyfrgelloedd mewn hybiau a threfi.

Llyfrgell Aberbargod
Llyfrgell Abercarn
Llyfrgell Abertridwr
Llyfrgell Bedwas
Llyfrgell Deri
Llyfrgell Llanbradach
Llyfrgell Machen
Llyfrgell Nelson
Llyfrgell Canolfan Gwybodaeth ac Adnoddau’r Rhosyn Gwyn
Llyfrgell Oakdale
Llyfrgell Pengam

Gall trigolion nawr gysylltu'n uniongyrchol ag un o'r llyfrgelloedd i drefnu apwyntiad pori ymlaen llaw
 
Yr hyn rydyn ni'n ei ddisgwyl gennych chi
Bydd eich profiad yn y llyfrgell yn wahanol i'r arfer, a bydd ein llyfrgelloedd yn cyfyngu ar y cwsmeriaid ym mhob safle. Mae eich diogelwch yn bwysig i ni o hyd, felly:
 
  • Peidiwch ag ymweld â'r llyfrgell os ydych chi'n sâl neu'n dangos symptomau coronafeirws. 
  • Gwisgwch orchudd wyneb neu amddiffynnydd wyneb plastig yn y llyfrgell.
  • Cofiwch gadw pellter cymdeithasol a dilyn y canllawiau iechyd a diogelwch sydd ar waith. 
  • Peidiwch ag amharchu'r staff – maen nhw yno i'ch helpu chi.
  • Defnyddiwch y gorsafoedd diheintio dwylo yn y llyfrgell. Cofiwch ddiheintio eich dwylo wrth gyrraedd y llyfrgell, ac wrth adael.

Mae Cyngor Caerffili yn rhan o wasanaeth Olrhain, Profi a Diogelu y Gwasanaeth Iechyd, felly, wrth gyrraedd y llyfrgell, cofiwch sganio cod QR y Gwasanaeth Iechyd neu lenwi Ffurflen Gyswllt.
Bydd angen i bob plentyn dan 8 oed fod yng nghwmni oedolyn neu warcheidwad.

Sut mae trefnu apwyntiad pori ymlaen llaw?

Bydd ein llyfrgelloedd yn cynnig hyn a hyn o apwyntiadau 20 munud o hyd bob dydd.  I drefnu apwyntiad, mae modd anfon e-bost neu ffonio'r llyfrgell yn uniongyrchol:

 
Llyfrgell
Aberbargod
01443 837164 LlyfrAberbargod@caerffili.gov.uk
Llyfrgell
Abercarn
01495 235656 LlyfrAbercarn@caerffili.gov.uk
Llyfrgell
Abertridwr
02920 830790 LlyfrAbertridwr@caerffili.gov.uk
Llyfrgell
Bedwas
02920
852542
LlyfrBedwas@caerffili.gov.uk
Llyfrgell
Deri
01443 875549 LlyfrDeri@caerffili.gov.uk
Llyfrgell
Llanbradach
02920 861139 LlyfrLlanbradach@caerffili.gov.uk
Llyfrgell
Machen
01633 440330 LlyfrMachen@caerffili.gov.uk
Llyfrgell
Nelson
01443 451632 LlyfrNelson@caerffili.gov.uk
 
Llyfrgell Canolfan Gwybodaeth ac Adnoddau’r Rhosyn Gwyn 01443 875500 LlyfrRhosynGwyn@caerffili.gov.uk
 
Llyfrgell Oakdale 01495 223545 LlyfrOakdale@caerffili.gov.uk
 
Llyfrgell Pengam 01443 831739 LlyfrPengam@caerffili.gov.uk
 
 
Wrth drefnu apwyntiad, bydd rhaid i chi ateb rhai cwestiynau er mwyn sicrhau bod eich cofnod aelodaeth yn gyfoes.
 
Yn y llyfrgell;

Dewch â'ch cerdyn aelodaeth llyfrgell gyda chi bob tro oherwydd byddwch chi'n cael eich annog i ddefnyddio'r system hunan-wasanaeth.
 
Dim ond o bellter diogel o 2 fetr y bydd staff yn gallu darparu hyn a hyn o gymorth.
 
Mae'r apwyntiadau wedi'u cyfyngu i 20 munud o hyd er mwyn sicrhau tegwch i'n cwsmeriaid.
 
Bydd angen i bob plentyn dan 8 oed fod yng nghwmni oedolyn neu warcheidwad.
 
Defnyddiwch un o'n bagiau cotwm i gario'r llyfrau rydych chi eu heisiau ac, ar ôl gorffen, rhowch y bag yn y Blwch Cwarantin a ddarperir.
 
Os ydych wedi trin eitem am fwy na 10 munud, rhowch yr eitem honno mewn Blwch Cwarantin - mae llawer o'r blychau hyn wedi'u lleoli o amgylch adeiladau'r llyfrgelloedd.
 
Gwasanaethau sydd ddim ar gael ar hyn o bryd:
  • Seddi cyfforddus a lle astudio
  • Toiledau cyhoeddus - ar gael i gwsmeriaid ag apwyntiadau.
  • Ar hyn o bryd, mae ystafelloedd cyfarfod a seminarau ar gau.
  • Adnoddau fel taflenni lliwio i blant.
 


Ymholiadau'r Cyfryngau