Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Canolfannau Hamdden
Casgliad bin wedi'i golli
Cymorth i Wcráin
Swyddi a hyfforddiant
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd
Cefnogaeth a chyngor am Gostau Byw
Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mehefin 2021
Cwpwl Maethu Caerffili yn ymddeol ar ôl 22 mlynedd o faethu
News Centre
Cwpwl Maethu Caerffili yn ymddeol ar ôl 22 mlynedd o faethu
Postiwyd ar : 07 Meh 2021
Mae cwpwl dan system Maethu Caerffili wedi ymddeol ar ôl rhoi 22 mlynedd o'u bywydau i helpu plant trwy faethu.
Mae Mair a Martyn Jones, o Ferthyr Tudful, wedi bod yn maethu ers 2001, er fe wnaeth Mair faethu ar ei phen ei hunain ym 1999.
Yn 2017, trosglwyddodd Mair a Martyn i Maethu Caerffili o awdurdod arall, a gyda'i gilydd maen nhw wedi maethu 14 o blant ers 2001.
Mae'r cwpwl yn ofalyddion maeth llawn amser ac wedi ymroddi'r 22 mlynedd diwethaf i gefnogi'r bobl ifanc yn eu harddegau yn ein cymuned.
Meddai Mair Jones, "Dechreuais i faethu 22 mlynedd yn ôl. Yn ystod y cyfnod hwn, rydyn ni wedi gofalu am lawer o blant o gefndiroedd gwahanol gyda phroblemau gwahanol. Mae wedi bod yn heriol ac yn werth chweil ar yr un pryd.
"Rydyn ni wedi gwylio pobl ifanc a oedd wedi'u gwahardd o'r ysgol yn mynd ymlaen i gwblhau prifysgol ac rydyn ni wedi gweld merched ifanc o gefndiroedd teuluol anodd yn mynd ymlaen i gael teuluoedd hapus eu hunain - rydyn ni'n chwifio at rhai ohonyn nhw wrth fynd i'r ysgol bob bore.
"Nid yw pob lleoliad wedi bod yn llwyddiannus - mae rhai plant yn dod i ofal maeth ac yn gadael yn fuan ar ôl hynny, heb ragor o gyswllt, ond mae eraill yn dod yn rhan o'ch bywyd am byth.
"Rydyn ni wedi mwynhau bod yn ofalyddion maeth dros yr 22 mlynedd diwethaf. Mae wedi cyfoethogi ein bywydau, a bywydau'n teulu."
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, "Hoffwn i ddiolch a llongyfarch Mair a Martyn Jones am eu hymrwymiad i gefnogi plant yn ein cymuned leol dros y 22 mlynedd diwethaf. Rydych chi wedi helpu cymaint o blant symud ymlaen gyda'u bywydau a dangos cyfeillgarwch, cariad a chymorth iddyn nhw."
Ychwanegodd, "Mae ein gofalyddion maeth yn bobl anhygoel a hoffwn i ddiolch i bob un ohonyn nhw am yr hyn maen nhw'n eu gwneud ac yn parhau i wneud ar gyfer ein pobl ifanc sydd angen cymorth yng Ngwent."
Os yw bod yn ofalydd maeth yn swnio fel ffordd y gallwch chi gefnogi pobl ifanc yn eich cymuned leol, a chyfoethogi neu gyflawni eich bywyd ar y ffordd, felly mae Teulu Maethu Caerffili yn rhoi croeso cynnes i chi gychwyn ar y daith hon gyda ni. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch y tîm ar 0800 587 5664, anfon 'maethu' ar ffurf neges testun i 78866 neu e-bostio'r tîm ar maethu@caerffili.gov.uk.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Partneriaid yn arwain y ffordd i annog perchnogaeth gyfrifol ar gŵn
Sefydliadau Caerffili wedi'u gwahodd i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog
Cabinet Caerffili yn cymeradwyo darparu 1000 o gartrefi fforddiadwy newydd
Lluosi – Yn Lansio Heddiw!
Bardd Plant Waterstones ar gyfer 2023, Joseph Coelho, yn ymweld â Llyfrgell Caerffili
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y