Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Gwiriwr Signal Ffonau Symudol
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Gorffennaf 2024
Digwyddiad Cwadrathlon i Blant Clwb Athletau Cwm Rhymni yn Hwb Athletau Cyngor Caerffili
News Centre
Digwyddiad Cwadrathlon i Blant Clwb Athletau Cwm Rhymni yn Hwb Athletau Cyngor Caerffili
Postiwyd ar : 22 Gor 2024
Yn Nigwyddiad Cwadrathlon i Blant Clwb Athletau Cwm Rhymni, a gafodd ei gynnal yn Hwb Athletau Cyngor Caerffili yn Oakdale, daeth 48 o athletwyr ifanc, yn amrywio o blant dan 7 oed i blant blwyddyn 6 yn yr ysgol, i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau athletaidd. Roedd y digwyddiad yn cynnwys rhedeg, neidio, taflu a her ddycnwch, gan ddarparu profiad athletaidd cynhwysfawr i bawb oedd yn cymryd rhan.
Cafodd pob athletwr wobrau perfformiad eithriadol, wedi'u henwebu gan ein harweinwyr ifanc a fu'n hyfforddi'r cyfranogwyr drwy gydol y digwyddiad. Roedd y gwobrau hyn yn cydnabod yr ymdrechion a'r chwarae teg arbennig a gafodd eu dangos gan bawb dan sylw.
Mynegodd Cadeirydd Clwb Athletau Cwm Rhymni, Deb Howells, ei llawenydd: “Rydyn ni'n hynod falch o'r holl athletwyr ifanc a gymerodd ran. Roedd eu hymrwymiad a'u brwdfrydedd yn wirioneddol ysbrydoledig. Roedd y digwyddiad hwn yn amlygu pwysigrwydd athletau a'r cyfleoedd ffantastig sydd ar gael yn ein clwb.”
Ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn ymuno â Chlwb Athletau Cwm Rhymni, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan
Clwb Athletau Cwm Rhymni
. Gallwch chi hefyd gysylltu â ni yn Chwaraeon Caerffili drwy
davies30@caerffili.gov.uk
neu 01443 863397.
Mae Hwb Athletau Cyngor Caerffili ar gael am ddim fel rhan o'ch
aelodaeth Dull Byw Hamdden
. Cadwch eich lle nawr ar ap
Dull Byw Hamdden
.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Strategaeth Gwastraff uchelgeisiol wedi’i chymeradwyo gan y Cyngor
Disgyblion yn cymryd rhan yn y gwaith o adeiladu eu hystafelloedd dosbarth newydd
Hoffech chi redeg cyfleuster cymunedol?
Cyflwyno’r rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Chwaraeon Caerffili 2024
Mae gwaith uwchraddio nwy yn dechrau ar Heol Pontygwindy, Caerffili
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y