News Centre

VirginMediaO2 yn Rhoi Diffibriliwr Awtomatig i Ganolfan Hamdden Caerffili

Postiwyd ar : 18 Gor 2022

VirginMediaO2 yn Rhoi Diffibriliwr Awtomatig i Ganolfan Hamdden Caerffili
Yr wythnos diwethaf, ymwelodd VirginMediaO2 â Chanolfan Hamdden Caerffili i weld y diffibriliwr awtomatig newydd gael ei osod.
 
Cwblhaodd VirginMediaO2 eu prosiect ‘Lightning’ ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ac ehangodd y rhwydwaith i tua 12,000 o gartrefi. Bydd cwsmeriaid yn gallu manteisio ar y gwasanaeth band eang newydd, 'Gig1', sy'n gallu darparu cyflymderau band eang cyfartalog o 516mbs wrth lawrlwytho (50 gwaith yn gyflymach na band eang safonol y Deyrnas Unedig), ynghyd â’r pecynnau teledu a ffôn.
 
Yn garedig iawn, rhoddodd VirginMediaO2 ddiffibriliwr cwbl awtomatig i'r gymuned leol i ddiolch i'r bobl am eu cydweithrediad a'u hamynedd nhw drwy gydol y cyfnod adeiladu.
 
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, yr aelod ward lleol a’r Dirprwy Arweinydd, “Mae wedi bod yn wych gweithio’n agos gyda Virgin Media a’r Gwasanaeth Chwaraeon a Hamdden er mwyn sicrhau’r offer achub bywyd hwn. Mae’n rhywbeth rydyn ni'n gobeithio na fydd byth yn cael ei ddefnyddio, ond rydw i’n falch bod gennym ni ddiffibriliwr arall bellach yn yr ystafell ffitrwydd sy’n darparu haen ychwanegol o gymorth i’n cwsmeriaid ni.”
 
Dywedodd y Cynghorydd Christopher Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Rydw i mor falch o weld diffibriliwr arall yn cael ei osod yn un o'n cyfleusterau chwaraeon ni. Mae'r dyfeisiau achub bywyd hyn yn rhan hanfodol o'n cymunedau ni a hoffwn i ddiolch i VirginMediaO2 am y rhodd hael hon.”

Am ragor o wybodaeth am ba gyfleusterau chwaraeon a hamdden egnïol sydd ar gael yn eich ardal chi – ewch i: https://www.caerphilly.gov.uk/Things-To-Do/Sports-and-Leisure?lang=cy-gb

 


Ymholiadau'r Cyfryngau