News Centre

Ysgol Gynradd Derwendeg a Heddlu Gwent yn cydweithio i ddefnyddio Minecraft fel offeryn dysgu

Postiwyd ar : 21 Gor 2022

Ysgol Gynradd Derwendeg a Heddlu Gwent yn cydweithio i ddefnyddio Minecraft fel offeryn dysgu
Mae cydweithredu rhwng Ysgol Gynradd Derwendeg a Heddlu Gwent wedi arwain at ddull newydd o ddysgu a hybu diogelwch cymunedol – gan ddefnyddio Minecraft.
 
Yn rhan o’r cynllun peilot addysgol, mae disgyblion yn yr ysgol wedi bod yn adeiladu byd digidol newydd sy’n adlewyrchu eu cymuned nhw, gan gynnwys tirnodau lleol fel eu hysgol gynradd a’u maes chwarae nhw.
 
Y canlyniad fydd byd ar-lein cwbl ryngweithiol a diogel a fydd yn galluogi chwaraewyr/dysgwyr i ryngweithio gyda chymeriadau na ellir eu chwarae (NPCs) sydd wedi eu creu gan swyddogion cymorth cymunedol i ddysgu rhagor am bethau fel aros yn ddiogel ar-lein, sut i roi gwybod am droseddau a sut i adnabod yr arwyddion o gam-fanteisio mewn llinellau cyffuriau.
 
Mae dysgwyr wedi defnyddio gwybodaeth o’u gwersi mathemateg nhw er mwyn codi adeiladau i raddfa, wedi dysgu sut i godio dilyniannau golau ac wedi cynnal sgyrsiau am ddiogelwch cymunedol.
                        
Trwy sefydlu’r prosiect, swyddogion NXT Gen Heddlu Gwent, Alex Donne a Deke Williams, oedd yr aelodau cyntaf o staff yr heddlu yng Nghymru i gael achrediad gan Lywodraeth Cymru a Minecraft yn rhan o’u rhaglen addysg nhw ar gyfer Cymru.
 
Dywedodd Alex Donne, swyddog cymorth cymunedol sy’n gweithio o fewn NXT Gen, “Mae’r hyfforddiant a gafodd ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru a Minecraft wedi ein galluogi ni i gael dealltwriaeth well o bŵer a photensial dysgu sy’n seiliedig ar gemau er mwyn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.
 
“Trwy gydweithio gydag arbenigwyr ar y pwnc, rydyn ni wedi gallu defnyddio Minecraft i adeiladu byd digidol sy’n ysbrydoli, yn ddiogel ac yn addysgol.
 
“Gan ddefnyddio technoleg fel hyn, rydyn ni’n gallu adeiladu cysylltiadau cryf gyda phobl ifanc ledled Gwent ac amlygu sut mae’r heddlu a’r gymuned yn gallu gweithio gyda’i gilydd i gynyddu diogelwch yn ein cymunedau. Mae’r prosiect wedi ein galluogi ni i roi cyngor diogelwch cymunedol mewn ffordd atyniadol a difyr – rhywbeth rydyn ni’n gobeithio sy’n aros gyda disgyblion yn Ysgol Gynradd Derwendeg.
 
“Trwy gydol y prosiect, mae dysgwyr wedi cael eu hannog i ymfalchïo yn eu cymunedau nhw, wedi meddwl am sut mae eu strydoedd nhw’n gallu bod yn fwy diogel ac wedi siarad am bryderon lleol.”
 
Dywedodd Lynsey Wangiel, Pennaeth Ysgol Gynradd Derwendeg, “Rydyn ni wedi bod wrth ein boddau yn gweithio gyda Heddlu Gwent yn rhan o’r prosiect cyffrous ac arloesol hwn.
 
“Mae ein disgyblion ni ym mlwyddyn chwech wedi ymroi’n llwyr i’r prosiect drwy bwnc y tymor hwn (‘Sut y gallwn ni gadw ein cymunedau ni’n hapus, iach, a diogel?’), gan ffocysu ar eu rôl a’u cyfrifoldebau nhw fel aelodau o’r gymuned leol.
 
“Mae’r prosiect wedi galluogi ein dysgwyr ni i ddatblygu ar bedwar diben y Cwricwlwm i Gymru ac wedi cyflawni llawer o’r datganiadau ar yr hyn sy’n bwysig ledled y Meysydd Dysgu a Phrofiad.”
 
Unwaith y bydd y prosiect wedi ei gwblhau, y gobaith yw y bydd y byd Minecraft ar gael i dros 100 o ysgolion Gwent, gan adeiladu cymuned ar-lein ar gyfer dysgu, rhyngweithio a chymorth.
 
Ychwanegodd Sarah Snowdon, Rheolwr Rhaglen Ddysgu Hwb Minecraft, “Mae’n wych gweld sut mae technoleg, cymunedau a phlismona yn gallu dod ynghyd a dod yn fyw mewn ffordd berthnasol iawn er budd llawer o ddysgwyr ac oedolion.
 
“Mae meddwl bod Minecraft: Education Edition a phobl ifanc greadigol yn gallu newid safbwyntiau ynglŷn â’r amcanion ac uchelgeisiau cyffredin sydd gan y maes plismona a chymunedau yn hynod o bwerus!”
 
Mae tîm NXT Gen Heddlu Gwent yn gweithio gydag ysgolion ledled Gwent ac yn rheoli mentrau’r cadéts heddlu a’r Heddlu Bach. Os ydych chi am gael gwybod rhagor am y tîm, dilynwch nhw ar Twitter: https://twitter.com/GPNxtGen.


Ymholiadau'r Cyfryngau