News Centre

Cyhoeddi Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn enillwyr yng Ngwobrau Esiampl 2022

Postiwyd ar : 01 Gor 2022

Cyhoeddi Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn enillwyr yng Ngwobrau Esiampl 2022
Fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gipio dwy Wobr Blatinwm yng Ngwobrau Esiampl GeoPlace 2022.

Mae Gwobrau Esiampl GeoPlace yn cydnabod cyfraniadau eithriadol at reoli neu ddefnyddio data strydoedd a chyfeiriadau yn y Deyrnas Unedig.

Mae data cyfeiriadau a strydoedd o ansawdd da yn sail i sawl agwedd ar fusnes llywodraeth leol – gan gynnwys gwaith trawsnewid mawr a mentrau llai sydd wedi dod o hyd i ffyrdd clyfar o gydgysylltu gwybodaeth arall.

Mae data da yn hollbwysig yn hyn i gyd. Heb ddata cywir, cyfredol ac sy'n cael eu cynnal yn dda, ni fydd llawer o'r heriau hyn yn cael eu datrys.

Fe gafodd Gwobr Blatinwm am Ddata Cyfeiriadau ei dyfarnu i dîm bach Rheoli Cyfeiriadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – sy'n cynnwys Lee Pinney, Myra Osborn a Rachel Holden – ac fe gafodd Gwobr Blatinwm am Reoli Data Strydoedd ei chyflwyno i'r Uwch Beiriannydd Gweithredu Cymwysiadau, Kathryn Sprackling-Jones.

Meddai'r Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet dros Gynllunio a Diogelu'r Cyhoedd, “Mae'n wych gweld Tîm Caerffili yn cael ei gydnabod fel hyn. Mae data'n rhywbeth sy'n digwydd, i raddau helaeth, y tu ôl i'r llenni; ond, o beidio â gwneud y gwaith hwn yn effeithiol, byddai'n tarfu ar bob gwasanaeth rydyn ni, fel Bwrdeistref Sirol, yn ei gynnig. Da iawn i bawb dan sylw.”


Ymholiadau'r Cyfryngau