News Centre

Cabinet yn cytuno i orfodi landlordiaid sy’n methu â bodloni safonau gofynnol effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi

Postiwyd ar : 28 Gor 2022

Cabinet yn cytuno i orfodi landlordiaid sy’n methu â bodloni safonau gofynnol effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi
Cytunodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ddiweddar ar ddull i gymryd camau gorfodi yn erbyn landlordiaid preifat sy’n methu â bodloni Safonau Gofynnol Effeithlonrwydd Ynni (MEES) yn eu heiddo.

O ganlyniad i’r penderfyniad hwn, bydd swyddogion y Cyngor bellach yn gallu rhoi dirwyon i landlordiaid sy’n rhentu eiddo sydd â sgôr o F neu G ar eu Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC); gyda dirwyon hyd at £5,000.

Mae’r Rheoliadau Effeithlonrwydd Ynni (Eiddo Rhent Preifat) (Lloegr a Chymru) 2015 yn cyflwyno’r rhwymedigaeth gyfreithiol i landlordiaid ddarparu tystysgrif perfformiad ynni gyda sgôr o E neu uwch i denantiaid presennol, newydd a darpar denantiaid yn y rhan fwyaf o gartrefi sy’n cael eu rhentu oni bai eu bod nhw wedi’u heithrio megis adeiladau rhestredig neu adeiladau sydd wedi’u gwarchod yn swyddogol. Mae’r rheoliadau yn gosod safonau gofynnol effeithlonrwydd ynni i helpu i leihau tlodi tanwydd ac allyriadau carbon.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Mae gan y Cyngor dîm ymroddedig ar waith i fynd i’r afael â’r mater hwn a chynorthwyo landlordiaid i gynyddu safonau effeithlonrwydd ynni eu cartrefi i’r hyn sy’n ofynnol yn y rheoliadau.

“Mae sicrhau bod eiddo yn effeithlon o ran ynni yn hollbwysig nid yn unig i leihau’r niwed i’n hamgylchedd ond i gadw costau byw tenantiaid mor isel â phosibl a gwella eu hiechyd a’u lles cyffredinol.

“Rydw i’n falch i ddweud bod dros 90% o’r landlordiaid yn y Fwrdeistref Sirol sydd wedi ymgysylltu â swyddogion yn gweithio gyda ni i wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi. Gorfodi yw’r opsiwn olaf i ni fel Cyngor, ond mae cymeradwyo’r dull hwn yn newyddion calonogol gan ei fod yn rhoi’r arfau ychwanegol i swyddogion fynd i’r afael â’r mater hwn, pan fo angen.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan, ffonio 01443 811378 neu anfon e-bost i taisectorpreifat@caerffili.gov.uk.
 

 


Ymholiadau'r Cyfryngau