News Centre

Cymeradwyo canolfan lles gwerth £33 miliwn

Postiwyd ar : 19 Ion 2023

Cymeradwyo canolfan lles gwerth £33 miliwn
Aelodau Cabinet y Cyngor yn ymweld â safle arfaethedig yr Hwb Lles newydd yng Nghaerffili

Bydd trigolion ar draws bwrdeistref sirol Caerffili yn elwa o ganolfan lles newydd o’r radd flaenaf diolch i hwb ariannol gwerth £20 miliwn gan Gronfa Codi'r Gwastad y Llywodraeth a gafodd ei chyhoeddi heddiw.

Bydd y cyfleuster newydd, a fydd yn cael ei adeiladu yn agos at gyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus allweddol yng nghanol Caerffili, yn dod yn ganolfan hamdden a lles blaenllaw ar gyfer y fwrdeistref sirol gyfan.

Bydd Cyngor Caerffili yn cyfrannu dros £13 miliwn o'i gronfeydd wrth gefn ei hun tuag at y cyfleuster newydd cyffrous, a fydd yn cael ei ddatblygu ar dir ger Parc Busnes Caerffili.

Croesawodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, y cyhoeddiad, “Mae hwn yn newyddion gwych ac yn dangos ein gweledigaeth a’n huchelgais i gyflawni prosiectau mawr a fydd yn adfywio ein cymunedau ac yn arwain at newid cadarnhaol i drigolion lleol.”

“Bydd y cyfraniad o £13 miliwn o’n cronfeydd arian wrth gefn yn gwireddu’r prosiect hwn ac rwy’n gobeithio y gall y rhai sy’n ein beirniadu’n barhaus am fod â chronfeydd wrth gefn iach bellach weld y buddion y mae modd eu cyflawni diolch i’n rheolaeth ariannol effeithiol,” ychwanegodd.

Bydd y ganolfan newydd yn cynnwys pwll nofio newydd, yn ogystal ag ystod eang o gyfleusterau ffitrwydd a lles i’w defnyddio gan y gymuned gyfan gan gynnwys:

  • Ystafell ffitrwydd o'r radd flaenaf
  • Canolfan Chwarae Actif i blant ifanc a phobl ifanc yn eu harddegau
  • Darpariaeth nofio gyfoes sy'n canolbwyntio ar y teulu
  • Cyfleusterau sba a lles
  • Ystafelloedd Cymunedol i gynorthwyo iechyd, lles a chydlyniant y gymuned
  • Neuadd Chwaraeon Amlbwrpas ar gyfer ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau
  • Cyfleuster arlwyo i gynorthwyo cyflogaeth a chynhwysiant. 

Mae'r datblygiad yn rhan allweddol o Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Actif uchelgeisiol y Cyngor sy'n ceisio cael rhagor o bobl i fod yn fwy actif, yn fwy aml. Mae hefyd yn rhan o lasbrint adfywio sylweddol ar gyfer canol tref Caerffili o’r enw Cynllun Llunio Lleoedd Caerffili 2035 – yn ogystal â’r rhaglen llunio lleoedd ehangach gwerth £500+ miliwn ar gyfer y Fwrdeistref Sirol ehangach.

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, “I gyd, cafodd £36 miliwn o Gyllid Codi'r Gwastad ei ddyrannu ar gyfer prosiectau Gwent ac mae’r rhan fwyaf o’r cyllid (£20 miliwn) wedi’i sicrhau yma yng Nghaerffili, sy’n adlewyrchiad hynod gadarnhaol ar ansawdd ein cais. Byddwn ni nawr yn symud mor gyflym ag y gallwn ni i yrru'r prosiect hwn yn ei flaen a darparu buddion mawr i'r gymuned.

Bydd dau gynnig ychwanegol a gafodd eu cyflwyno gan y Cyngor (canolfan cyfnewid trafnidiaeth Caerffili a datblygiad hamdden yng Nghoedwig Cwmcarn) yn cael eu hystyried mewn rowndiau ceisiadau yn y dyfodol.



Ymholiadau'r Cyfryngau