Pont droed yr A468/A469
Postiwyd ar : 25 Ion 2023
Bydd y bont droed ger Cylchfan Pwll-y-pant, Caerffili, yn cael ei hailosod ddydd Gwener 27 Ionawr.
Mae disgwyl cau'r ffordd a rhoi llwybr gwyro ar waith o 8pm ar nos Wener, a bydd hyn yn parhau tan 6am ar fore Sadwrn.
I wneud y gwaith hwn, bydd yr A468/A469 ar gau rhwng Cylchfannau Pwll-y-pant a Threcenydd.
Bydd llwybr gwyro ar waith oherwydd cau'r ffordd. Bydd y llwybr gwyro arfaethedig yn arwain traffig o riw Nantgarw ac ar hyd.
- Yr A470 i gylchfan Abercynon,
- Drwy Nelson ac Ystrad Mynach (A472)
- Yna, yn ôl ar yr A469 tuag at Gylchfan Pwll-y-pant
Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra o ganlyniad i'r gwaith hwn.