News Centre

​Digwyddiad Ymgysylltu â Chyflenwyr – Cyfleoedd Tendro Tai

Postiwyd ar : 26 Ion 2023

​Digwyddiad Ymgysylltu â Chyflenwyr – Cyfleoedd Tendro Tai

Mae Gwasanaethau Caffael, ar y cyd â Cartrefi Caerffili, yn gwahodd sefydliadau sy'n dymuno tendro am y Cytundeb Fframwaith ar gyfer Technegol Tai, Gweithrediadau Atgyweirio Tai (HRO) a Strategaeth Cynnal a Chadw Asedau Cynlluniedig (PAMS) i sesiwn ymgysylltu â chyflenwyr.

Mae Gwasanaethau Caffael, ar y cyd â Cartrefi Caerffili, yn gwahodd sefydliadau sy'n dymuno tendro am y System Brynu Ddeinamig, ar gyfer darparu mân waith addasu mewn tai sector cyhoeddus a phreifat a gwaith addasu mawr yn nhai'r sector cyhoeddus, i sesiwn ymgysylltu â chyflenwyr.

Amserlen

  • 09.00am – Croeso/Agenda (Becky Morris, Prif Swyddog Caffael)
  • 09.05am – Cyflwyniad am Cartrefi Caerffili sy’n cynnwys trosolwg/strategaeth/Gweledigaeth ar gyfer Gweithrediadau Atgyweirio Tai (HRO)/Strategaeth Rheoli Asedau Cynlluniedig (PAMS) a Thai y Sector Preifat (PSH) (Nick Taylor-Williams – Pennaeth Tai) 
  • 09.20am – Trosolwg o'r Partneriaid Cyflenwi ar gyfer HRO/PAMS a PSH (Kath Webb – Rheolwr Perthynas)

Sesiwn Un

  • 09.30am – Trosolwg HRO/PAMS o Drefniadau Newydd (Alan Edmunds- Rheolwr PAMS a Jason Fellows – Rheolwr Gweithrediadau Atgyweirio Tai)
  • 09.50am – Trosolwg o’r Broses Gaffael (Becky Morris, Prif Swyddog Caffael)
  • 10.05am – Sesiwn Holi ac Ateb mewn perthynas â fframwaith HRO/PAMS (Swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili)

Sesiwn Dau

  • 10.35am – Trosolwg – Mân Weithiau Addasu a Gweithiau Addasu Mawr (Graham Heath – Prif Swyddog Tai)
  • 10.55am – Trosolwg o’r Broses Gaffael (Becky Morris, Prif Swyddog Caffael)
  • 11.10yb – Sesiwn Holi ac Ateb mewn perthynas â threfniant PSH (Swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili)
  • 11.45pm – Sesiwn Holi ac Ateb terfynol mewn perthynas â’r ddau gyfle
  • 12.00pm – Gorffen.

Sylwch y bydd y sesiwn yn cael ei chynnal drwy Microsoft Teams' Os hoffech gadw lle i fod yn bresennol yn y cyfarfod Teams, anfonwch e-bost at Caffael@caerffili.gov.uk erbyn 17.00pm ddydd Llun 6 Chwefror 2023 fan bellaf.

 
 


Ymholiadau'r Cyfryngau