News Centre

Cafodd Ysgol Gymunedol Sant Cenydd ymweliad arbennig gan Andrew Bailey, Llywodraethwr Banc Lloegr

Postiwyd ar : 24 Ion 2023

Cafodd Ysgol Gymunedol Sant Cenydd ymweliad arbennig gan Andrew Bailey, Llywodraethwr Banc Lloegr
Ymwelodd Andrew Bailey, Llywodraethwr Banc Lloegr, â disgyblion Ysgol Gymunedol Sant Cenydd yn ddiweddar. Roedd yr ymweliad yn gyfle gwych i fyfyrwyr ddysgu am waith Banc Lloegr ac economi'r Deyrnas Unedig.

Ar ôl cyrraedd am 10.00am, cafodd Mr Bailey ei groesawu i’r ysgol gan y Pennaeth, Miss Rebecca Collins; y Dirprwy, Mr Ceri Bown; yn ogystal â’r Prif Ferch, Katie Nash a’r Prif Fachgen, Kyle Parson.

Hefyd, roedd y Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gyllid a Pherfformiad, yn bresennol, yn ogystal ag Ian Derrick a Steve Hicks sy'n cynrychioli Asiantaeth Cymru Banc Lloegr.

Yn ystod yr ymweliad, roedd araith fer gan Mr Bailey i 100 o ddisgyblion a gymerodd ran wedyn mewn sesiwn ryngweithiol gyda’r Llywodraethwr. Cafodd Mr Bailey ei holi gan y myfyrwyr o ran nifer o bynciau yn amrywio o sut datblygodd ei yrfa mewn cyllid, sut gallai cryptoarian gael effaith ar economi’r Deyrnas Unedig i benderfyniadau parhaus Banc Lloegr i fynd i’r afael â chwyddiant drwy’r cynnydd mewn cyfraddau llog.

Yn dilyn hyn, gweithiodd y Llywodraethwr â grŵp llai o fyfyrwyr sy’n rhan o Glwb Menter yr ysgol; roedd disgyblion yn eiddgar i drafod eu cynnig busnes ar gyfer menter technoleg symudol gynaliadwy.

Dywedodd Andrew Bailey, Llywodraethwr Banc Lloegr, “Roeddwn i'n falch iawn o gwrdd â disgyblion Ysgol Gymunedol Sant Cenydd yn ystod fy ymweliad diweddar â Chymru ac mae eu cwestiynau craff iawn ar yr economi wedi gwneud argraff arnaf i. Roedd hi'n ysbrydoledig cwrdd â phobl ifanc mor ymroddedig a chlywed eu dyheadau ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Rebecca Collins, Pennaeth Ysgol Gymunedol Sant Cenydd, “Roedd yn anrhydedd croesawu Llywodraethwr Banc Lloegr i Ysgol Gymunedol Sant Cenydd.  Mwynheuodd ein myfyrwyr yn fawr iawn y cyfle i drafod a deall ymhellach faterion economaidd pwysig sy'n effeithio ar eu bywydau nawr ac yn y dyfodol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet dros Gyllid a Pherfformiad, “Roedd hi'n wych bod yn bresennol ar gyfer ymweliad y Llywodraethwr ag Ysgol Gymunedol Sant Cenydd. Yn y cyfnod heriol hwn, roedd hi'n wych gweld y myfyrwyr yn cymryd cymaint o ran yn eu sesiwn holi ac ateb a chael y cyfle i glywed yn uniongyrchol gan Mr Bailey ar faterion sy’n effeithio ar yr economi.”


Ymholiadau'r Cyfryngau