News Centre

Gweithredu diwydiannol mewn ysgolion – llythyr i rieni

Postiwyd ar : 25 Ion 2023

Gweithredu diwydiannol mewn ysgolion – llythyr i rieni

Annwyl Riant/Ofalwr,

Efallai eich bod chi'n ymwybodol o'r newyddion diweddar yn y cyfryngau y gallai rhai ysgolion ledled Cymru gael eu heffeithio ar ddyddiadau allweddol dros yr wythnosau nesaf oherwydd gweithredu diwydiannol sy’n ymwneud ag Undebau Llafur Addysg.

Mae disgwyl i aelodau’r Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) streicio ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Mercher 1 Chwefror
  • Dydd Mawrth 14 Chwefror
  • Dydd Mercher 15 Mawrth
  • Dydd Iau 16 Mawrth 

Ar hyn o bryd, nid yw'n glir pa ysgolion o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili fydd ar gau ar y dyddiadau hyn. Mae angen i benaethiaid ysgolion gynnal asesiad risg manwl i ddeall yr effaith y bydd unrhyw weithredu diwydiannol yn ei gael ar y gallu i weithredu'r ysgol yn ddiogel gyda llai o staff.

Rydyn ni'n gwerthfawrogi'n llwyr y byddwch chi'n awyddus i gael gwybod cyn gynted â phosibl am unrhyw ysgolion yn cau a bydd pob ysgol yn ymdrechu i roi diweddariad cyn gynted â phosibl dros y dyddiau nesaf.

Fel y gallwch werthfawrogi, dim ond os oes lefelau priodol o staff ar gael i sicrhau diogelwch a lles pob disgybl y gall ysgolion weithredu. Ar hyn o bryd, mae penaethiaid yn ceisio penderfynu nifer y staff a allai fod ar gael ar y dyddiadau hyn a bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud ar sail yr asesiadau hyn.

Cadwch lygad am ddiweddariadau a fydd yn cael eu hanfon drwy sianeli cyfathrebu arferol eich ysgol chi.

Diolch i chi am eich amynedd a'ch dealltwriaeth barhaus yn y mater hwn.

Cofion

Keri Cole

Prif Swyddog Addysg



Ymholiadau'r Cyfryngau