News Centre

Dweud eich dweud ar gynigion y gyllideb

Postiwyd ar : 19 Ion 2023

Dweud eich dweud ar gynigion y gyllideb

Mae trigolion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael eu hannog i ddweud eu dweud a helpu i lunio'r ffordd mae'r Cyngor yn darparu ei wasanaethau yn y dyfodol.

Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei lansio heddiw (dydd Iau 19 Ionawr) i gasglu adborth gan y gymuned am gynigion cyllideb ddrafft y Cyngor ar gyfer 2023/24.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 8 Chwefror a bydd yn cynnwys amrywiaeth o gyfleoedd i ymgysylltu wyneb yn wyneb ac yn ddigidol. Bydd arolwg arbennig ar gael ar-lein ac ar ffurf copi caled o lyfrgelloedd ar gyfer y rhai nad oes ganddyn nhw fynediad i gyfrifiadur.

Mae tudalen we bwrpasol gyda dolenni i'r arolwg a gwybodaeth fanwl am gynigion y gyllideb ar gael yma: www.caerffili.gov.uk/TrafodaethCaerffili

Mae cyfres o sesiynau ymgysylltu wyneb yn wyneb ar y gweill, lle gall trigolion alw heibio am sgwrs gyda staff y Cyngor, yn ogystal â nifer o sesiynau ar-lein lle gall pobl wneud yr un peth.

Sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb:

Dweud eich dweud ar gynigion y gyllideb

Dyddiad: Lleoliad: Amser:
Dydd Mercher 25 Ionawr Llyfrgell Rhymni 10.00am–12.00pm (hanner dydd)
Dydd Mercher 25 Ionawr Llyfrgell Rhisga 3.30pm–5.30pm
Dydd Iau 26 Ionawr Llyfrgell Coed Duon 10.00am–12.00pm (hanner dydd)
Dydd Gwener 27 Ionawr Llyfrgell Nelson 10.00am–12.00pm (hanner dydd)
Dydd Llun 30 Ionawr Llyfrgell Caerffili 11.00am–1.00pm
Dydd Iau 2 Chwefror Lyfrgell Trecelyn 10.00am–12.00pm (hanner dydd)
Dydd Iau 2 Chwefror Llyfrgell Ystrad Mynach 10.00am–12.00pm (hanner dydd)
Dydd Mawrth 7 Chwefror Llyfrgell Bargod 5.00pm–7.00pm

 

Sesiynau galw heibio ar-lein:

Dyddiad: Amser:
Dydd Mercher 25 Ionawr 2.00pm–3.00pm
Dydd Mawrth 31 Ionawr 5.30pm–6.30pm
Dydd Llun 6 Chwefror 10.00am–11.00am

 

Dylai trigolion sy'n dymuno bod yn bresennol yn un o'r sesiynau ar-lein anfon e-bost at YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk gyda'r dyddiad dewisol, a bydd dolen yn cael ei darparu i fynychu'r sesiwn ar-lein.

Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn cael eu hadrodd i gyfarfodydd y Cabinet a'r Cyngor Llawn ddiwedd mis Chwefror pan fydd y gyllideb derfynol yn cael ei chymeradwyo.

Mae adroddiad llawn y gyllideb ar gael yma:

Agenda ar gyfer y Cabinet ar ddydd Mercher 18 Ionawr 2023, 1.00pm (caerffili.gov.uk)


 


Ymholiadau'r Cyfryngau