Dweud eich dweud ar gynigion y gyllideb
Postiwyd ar : 19 Ion 2023
Mae trigolion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael eu hannog i ddweud eu dweud a helpu i lunio'r ffordd mae'r Cyngor yn darparu ei wasanaethau yn y dyfodol.
Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei lansio heddiw (dydd Iau 19 Ionawr) i gasglu adborth gan y gymuned am gynigion cyllideb ddrafft y Cyngor ar gyfer 2023/24.
Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 8 Chwefror a bydd yn cynnwys amrywiaeth o gyfleoedd i ymgysylltu wyneb yn wyneb ac yn ddigidol. Bydd arolwg arbennig ar gael ar-lein ac ar ffurf copi caled o lyfrgelloedd ar gyfer y rhai nad oes ganddyn nhw fynediad i gyfrifiadur.
Mae tudalen we bwrpasol gyda dolenni i'r arolwg a gwybodaeth fanwl am gynigion y gyllideb ar gael yma: www.caerffili.gov.uk/TrafodaethCaerffili
Mae cyfres o sesiynau ymgysylltu wyneb yn wyneb ar y gweill, lle gall trigolion alw heibio am sgwrs gyda staff y Cyngor, yn ogystal â nifer o sesiynau ar-lein lle gall pobl wneud yr un peth.
Sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb:
Dweud eich dweud ar gynigion y gyllideb
Dyddiad: |
Lleoliad: |
Amser: |
Dydd Mercher 25 Ionawr |
Llyfrgell Rhymni |
10.00am–12.00pm (hanner dydd) |
Dydd Mercher 25 Ionawr |
Llyfrgell Rhisga |
3.30pm–5.30pm |
Dydd Iau 26 Ionawr |
Llyfrgell Coed Duon |
10.00am–12.00pm (hanner dydd) |
Dydd Gwener 27 Ionawr |
Llyfrgell Nelson |
10.00am–12.00pm (hanner dydd) |
Dydd Llun 30 Ionawr |
Llyfrgell Caerffili |
11.00am–1.00pm |
Dydd Iau 2 Chwefror |
Lyfrgell Trecelyn |
10.00am–12.00pm (hanner dydd) |
Dydd Iau 2 Chwefror |
Llyfrgell Ystrad Mynach |
10.00am–12.00pm (hanner dydd) |
Dydd Mawrth 7 Chwefror |
Llyfrgell Bargod |
5.00pm–7.00pm |
Sesiynau galw heibio ar-lein:
Dyddiad: |
Amser: |
Dydd Mercher 25 Ionawr |
2.00pm–3.00pm |
Dydd Mawrth 31 Ionawr |
5.30pm–6.30pm |
Dydd Llun 6 Chwefror |
10.00am–11.00am |
Dylai trigolion sy'n dymuno bod yn bresennol yn un o'r sesiynau ar-lein anfon e-bost at YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk gyda'r dyddiad dewisol, a bydd dolen yn cael ei darparu i fynychu'r sesiwn ar-lein.
Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn cael eu hadrodd i gyfarfodydd y Cabinet a'r Cyngor Llawn ddiwedd mis Chwefror pan fydd y gyllideb derfynol yn cael ei chymeradwyo.
Mae adroddiad llawn y gyllideb ar gael yma:
Agenda ar gyfer y Cabinet ar ddydd Mercher 18 Ionawr 2023, 1.00pm (caerffili.gov.uk)