News Centre

Apêl banc bwyd y Cyngor yn codi bron £11k

Postiwyd ar : 25 Ion 2023

Apêl banc bwyd y Cyngor yn codi bron £11k
Mae apêl flynyddol sy'n cael ei chydlynu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi codi £10,820 er budd banciau bwyd lleol.

Yn sgil yr apêl, gwnaeth trigolion, staff y Cyngor, contractwyr a chyflenwyr roi rhoddion arian parod ar-lein. Cafodd yr holl roddion eu rhannu'n uniongyrchol ymhlith banciau bwyd yng Nghoed Duon, Nelson, Rhymni, Caerffili a Rhisga.

Cafodd yr apêl ei chefnogi gan nifer o gwmnïau, gan gynnwys Willis Construction, Pinnacle, Woosnam Dairies, Glanmor Developments, Cardiff Lift Company, K & B Taxi, Willmott Dixon, Creigiau Travel, Brighter Minds, Colin Laver, Cheka Safeguarding Services, Holdsworth, Getech, Roger Jones, Bradford's Minibus, SD James, SERS, F I Walters, Millennium Building, Calibre Contracting, G Bridges, JS Lee, Gary Carpenter, Slice and Dice, Proactis, Fosse Contractors, Causeway Technologies Ltd, Foreman's Travel, AL Landscapes, M & S Catering, Blake Morgan, Hedlyn Contractors, Deco Glass, Unsain, The Urbanists, Quad Consult Ltd, Teleshore a Pickerings Lifts.

Meddai'r Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd y Cyngor, “Mae'r argyfwng costau byw presennol yn gosod heriau sylweddol i gynifer o bobl. Mae banciau bwyd yn chwarae rôl amhrisiadwy wrth gynorthwyo rhai o'n trigolion sydd mwyaf agored i niwed yn ystod cyfnodau o galedi. Rydyn ni'n gobeithio y bydd yr apêl hon yn eu helpu nhw i brynu'r cyflenwadau angenrheidiol, wrth i'r banciau bwyd, yn anffodus, weld mwy o alw am eu gwasanaethau.

“Hoffwn i ddiolch i bawb sydd, er gwaethaf yr anawsterau ariannol presennol, wedi gwneud cyfraniad mor hael. Hoffwn i ddiolch hefyd i bawb a gymerodd ran yng ngwaith cydlynu'r apêl eleni.”

I gael gwybodaeth am eich banc bwyd lleol, ffoniwch dîm Gofalu am Gaerffili y Cyngor ar 01443 811490, e-bostio GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk neu fynd i www.trusselltrust.org
 
 


Ymholiadau'r Cyfryngau