News Centre

Cynghorwyr yn ymweld â safle Bryn Group

Postiwyd ar : 27 Ion 2023

Cynghorwyr yn ymweld â safle Bryn Group
Mae cynghorwyr o bob rhan o Fwrdeistref Sirol Caerffili wedi elwa o fynychu cyfres o ymweliadau â Fferm Gelliargwellt Uchaf yng Ngelligaer i ddarganfod rhagor am weithrediadau Bryn Group ar y safle.
 
Daw'r ymweliadau ar ôl i'r Cabinet gymeradwyo ym mis Hydref y llynedd i Grŵp Cyswllt Bryn Group gael ei ailsefydlu – sy'n cynnwys trigolion a rhanddeiliaid eraill – i fynd i'r afael â phryderon cymunedol ac ar gyfer rhaglen o weithgarwch ymgysylltu â'r gymuned ehangach.
 
Mae Bryn Group yn gweithredu cyfleuster adfer deunyddiau, yn ogystal â fferm laeth, chwarel, a gwaith trydan adnewyddadwy carbon isel treulio anaerobig ar y safle. Mae’r safle’n un cymhleth gyda sawl gweithrediad a gweithgaredd, sy’n cael eu rheoleiddio’n rhannol gan dimau Iechyd yr Amgylchedd a Chynllunio’r Cyngor ac yn rhannol gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
 
Bwriad yr ymweliadau safle ar gyfer cynghorwyr oedd cynnig cipolwg, yn enwedig i’r rhai nad oedden nhw wedi ymweld â’r safle o’r blaen, o faint y safle, y gweithrediadau amrywiol sy’n digwydd, y cysylltiadau â dull gwastraff ac ailgylchu’r Cyngor, ac i fynd i’r afael â phryderon neu gamsyniadau posibl am weithrediadau ar y safle.
 
Roedd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd y Cyngor, ymhlith nifer fawr o gynghorwyr o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol a ymwelodd â'r safle. Dywedodd, “Roedd yn werth chweil ymweld â safle Bryn Group a gweld â’ch llygaid eich hun y gwahanol weithrediadau sy’n digwydd yno. Roedd hwn yn gam pwysig i weld gwell ymgysylltiad rhwng y gwahanol bartneriaid a’r cyfleuster ei hun, a hoffwn ddiolch i’r perchnogion, Alun a Paul Price, am roi o’u hamser i gynnig taith mor fanwl a diddorol i ni o amgylch y safle”.
 
Wrth sôn am yr ymweliadau ac ail-sefydlu’r grŵp cyswllt, dywedodd rheolwr AD Plant, Jennifer Price, “Rydyn ni'n falch iawn o’r gwaith rydyn ni'n ei wneud yma yn Bryn Group, a braf oedd croesawu’r cynghorwyr i Gelliargwellt Uchaf i ddangos iddyn nhw ehangder a graddfa ein gweithrediadau ni. Roedd cwestiynau'r cynghorwyr a’r drafodaeth a gawson ni yn gymorth iddyn nhw gael gwell dealltwriaeth o Bryn Group a’r prosesau gwahanol sy’n digwydd ar y safle. Bydd yn dda gweld y grŵp cyswllt yn rhedeg eto, ac edrychwn ni ymlaen at groesawu aelodau’r grŵp cyswllt i Bryn Group ddiwedd mis Ionawr.”
 
Bydd cyfarfod cyntaf Grŵp Cyswllt Bryn Group sydd wedi cael ei adsefydlu yn cael ei gynnal yn ddiweddarach y mis hwn, gydag ymweliad safle â’r gweithrediad wedi’i gynllunio ar gyfer aelodau’r grŵp cyn y cyfarfod cyntaf hwnnw. Bydd cynrychiolwyr o’r gwahanol gyrff rheoleiddio, Bryn Group, aelodau etholedig lleol, yr Aelod Cynulliad o’r etholaeth, a chynrychiolwyr trigolion yn bresennol i drafod materion, cyfleoedd a gweithgarwch ymgysylltu cymunedol pellach. Bydd tudalen we bwrpasol hefyd yn rhannu canlyniadau a chamau gweithredu allweddol o'r grŵp cyswllt i drigolion ac aelodau'r cyhoedd eu gweld.


Ymholiadau'r Cyfryngau