News Centre

​Tyre Glider: y busnes lleol, llwyddiannus a gafodd hwb gan Gronfa Fenter Caerffili y Cyngor

Postiwyd ar : 06 Chw 2023

​Tyre Glider: y busnes lleol, llwyddiannus a gafodd hwb gan Gronfa Fenter Caerffili y Cyngor

Mae Tyre Glider yn ddyfais newid teiars ar feic sydd wedi troi'n fusnes llwyddiannus wrth gael cymorth gan Gronfa Fenter Caerffili y Cyngor.

Fe wnaeth Kevin Baker, sylfaenydd Tyre Glider, lunio'r syniad ar ôl teimlo'n rhwystredig yn sgil methu newid teiar yn hawdd ar feic newydd oherwydd cymhlethdod y beic. Roedd y ddyfais yn syniad Kevin ar ôl defnyddio teclyn agor tuniau i gyflawni canlyniad tebyg i'r hyn yr oedd ei angen ar ei feic.

Daeth Kevin yn ymwybodol o Gronfa Fenter Caerffili drwy wefan y Cyngor. Cafodd wybodaeth am y broses ymgeisio ar ôl cysylltu â nhw. Llwyddodd yn ei gais i gael grant gan Gronfa Fenter Caerffili, a oedd yn gymorth i ddatblygu'r prototeip.

Cafodd y busnes ei ddechrau ychydig dros flwyddyn yn ôl, ac mae 50,000 o unedau Tyre Glider wedi cael eu gwerthu ledled y byd – mae dosbarthwyr yn Nenmarc, yr Iseldiroedd a Siapan. Nod eleni yw gweld cyflenwad Tyre Glider mewn rhagor o siopau yn y Deyrnas Unedig.

Meddai Kevin Baker, “Heb gymorth ariannol Cronfa Fenter Caerffili, dydw i ddim yn gwybod sut byddai wedi bod yn bosibl rhoi Tyre Glider ar waith. Roedd arian Cronfa Fenter Caerffili yn allweddol wrth sicrhau teclyn mowldio chwistrellu roedd rhaid i fi ei gael er mwyn gweithgynhyrchu'r cynnyrch.

“Roedd arian Cronfa Fenter Caerffili hefyd yn gymorth i ddatblygu fy ngwefan a marchnata'r busnes. Fel busnes newydd ac arian yn brin iawn, roedd hyn yn hwb enfawr i fi lwyddo yn y farchnad a darparu rhywle lle roedd cwsmeriaid yn gallu prynu'r teclyn yn uniongyrchol.

“Mae arian Cronfa Fenter Caerffili hefyd wedi rhoi'r cyfle i mi gael busnes lleol i weithgynhyrchu fy nheclyn Tyre Glider, sef OGM South Wales ar Ystâd Ddiwydiannol Penallta. Rydw i'n falch iawn bod hyn yn fusnes sy'n gweithredu yng Nghymru'n unig, a ddim yn dibynnu ar wledydd eraill.”

Meddai'r Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid Hinsawdd, “Roeddwn i wrth fy modd i gwrdd â Kevin er mwyn trafod ei fusnes a sut mae'r arian wedi'i helpu fe i ddatblygu. Mae ganddo fe gynnyrch arloesol ac rydyn ni'n falch bod arian Cronfa Menter Caerffili wedi rhoi cyfle i'r busnes ehangu.”

Am ragor o wybodaeth am gymorth busnes sydd ar gael, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:

Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu, Canolfan Busnes a Thechnoleg Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7FN.

E-bost: busnes@caerffili.gov.uk | Ffôn: 01443 866220

 
 

 



Ymholiadau'r Cyfryngau