News Centre

Staff Ysgol Gymraeg Gilfach Fargod yn dringo Pen y Fan 20 o weithiau er mwyn codi arian er budd disgybl dewr

Postiwyd ar : 03 Chw 2023

Staff Ysgol Gymraeg Gilfach Fargod yn dringo Pen y Fan 20 o weithiau er mwyn codi arian er budd disgybl dewr
Mae 12 aelod o staff Ysgol Gymraeg Gilfach Fargod wedi dod at ei gilydd er mwyn cynorthwyo Dylan Williams, disgybl blwyddyn 2 sydd wedi cael diagnosis o lewcemia.
 
Gweithiodd staff gyda'i gilydd er mwyn dringo Pen y Fan ddigon o weithiau er mwyn i'r cyfanswm fod yn gyfartal â dringo Mynydd Everest. Uchder Mynydd Everest yw 8,848 metr, ac uchder Pen y Fan, wrth gerdded o faes parcio Pont ar Daf, yw 446 metr. Felly, roedd angen dringo Pen y Fan 20 o weithiau rhwng y grŵp.
 
Cafodd y syniad ei ddatblygu yn ystod cyfarfod staff. Roedd y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon wedi codi arian er budd y teulu yn y Ffair Nadolig, lle roedd rhieni a disgyblion yn cyfrannu at godi arian er budd Dylan. Roedd y staff yn teimlo eu bod nhw, hefyd, eisiau cyfrannu at yr achos gan ddod at ei gilydd.
 
Bydd pob ceiniog a ddaw i law, yn sgil y digwyddiad dringo, er budd teulu Dylan, 6 oed. Mae £2,000 wedi cael ei godi yn barod ac mae rhagor o roddion yn dal i ddod mewn.
 
Dringodd Mr Hallett (Pennaeth Gweithredol) a Mr Hopton (Dirpwry Bennaeth) Ben y Fan bedair gwaith yr un. Dechreuon nhw am 7am yn y tywyllwch a gorffen am 4.30pm wrth i'r haul ddechrau mynd i lawr dros y Bannau.
 
Meddai Mr Jamie Hallett, y Pennaeth Gweithredol, “Dw i'n falch dros ben o'r staff am gyfrannu cymaint at achos mor deilwng. Mae Dylan yn aelod hapus a phoblogaidd o deulu'r ysgol, ac fel grŵp o staff roedden ni'n benderfynol o wneud rhywbeth er mwyn cynorthwyo'r teulu yn ystod y cyfnod anodd hwn.
 
“Dw i'n gwybod bod y teulu'n gwerthfawrogi ein cymorth a dymuniadau, â'u holl galon, wrth i Dylan barhau i gael triniaeth ar gyfer lewcemia.”
 
Ychwanegodd Mr a Mrs Williams, rhienu Dylan, “Hoffen ni ddiolch i staff yr ysgol am eu cymorth. Rydyn ni'n gwerthfawrogi hynny'n fawr.”
 
Diolch yn fawr iawn i'r athrawon anhygoel a gymerodd ran: Jamie Hallett, Aled Hopton, Amy James, Emily Pash, Cariad Casey, Bethan Chard, Andrea Thompson, Mirain Sellick, Cai Ireland, Rhian Darch, Elenid Marsh a Claire Pugh.


Ymholiadau'r Cyfryngau