News Centre

Contractau menter cyllid preifat ysgolion i gael eu hadolygu

Postiwyd ar : 23 Chw 2023

Contractau menter cyllid preifat ysgolion i gael eu hadolygu
Bydd darparu gwasanaethau cynnal a chadw adeiladau, arlwyo a chynnal a chadw tiroedd mewn dwy ysgol uwchradd fawr ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn cael eu hystyried gan gynghorwyr dros yr wythnosau nesaf.
 
Cafodd Ysgol Lewis Pengam ac Ysgol Gyfun Cwm Rhymni eu hadeiladu yn wreiddiol fel rhan o fenter cyllid preifat. Mae'r math hwn o yn galluogi prosiectau i gael eu cyflawni drwy drefniant partneriaeth rhwng awdurdod lleol a buddsoddwyr preifat.
 
Daeth y Cyngor i gytundeb menter cyllid preifat 30 mlynedd o hyd yn 2002 a oedd yn cynnwys adeiladu a gweithredu'r ddau safle ysgol gan gonsortiwm o gwmnïau preifat. Er bod 9 mlynedd ar ôl o hyd ar y contract gwreiddiol, mae'r Cyngor wedi nodi bod buddion allweddol yn bosibl pe bai'r contract yn cael ei derfynu'n gynnar.
 
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg, “Pe bai’r Cyngor llawn yn penderfynu cefnogi’r penderfyniad hwn yn y pen draw, bydd yn sicrhau cydraddoldeb yn y ffordd y mae ysgolion Caerffili yn cael eu hariannu a’u gweithredu gan yr Awdurdod Lleol.
 
“Yn ogystal â sicrhau agwedd decach at ariannu ledled ein holl ysgolion, mae'r Cyngor hefyd yn gallu cynhyrchu arbedion blynyddol sylweddol drwy derfynu’r contract yn gynnar.
 
“Mae’n bwysig nodi mai mater cytundebol yn unig yw hwn rhwng y Cyngor a’r consortiwm menter cyllid preifat ar nifer o gwasanaethau sydd ddim yn ymwneud ag addysg ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar ddisgyblion na staff addysgu’r ysgolion.”
 
Bydd dyfodol y contractau menter cyllid preifat yn cael eu hystyried mewn cyfarfod Craffu ar y Cyd y Cyngor yr wythnos nesaf (28/02/23) cyn mynd ymlaen i gael penderfyniad terfynol yng nghyfarfodydd y Cabinet a’r Cyngor Llawn ym mis Mawrth.
 
“Byddwn ni'n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gymunedau’r ddwy ysgol drwy gydol y broses,” ychwanegodd y Cynghorydd Andrews.


Ymholiadau'r Cyfryngau