News Centre

Cadwch y dyddiad ar gyfer Pride Caerffili

Postiwyd ar : 01 Chw 2023

Cadwch y dyddiad ar gyfer Pride Caerffili
 Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi dechrau Mis Hanes LHDT drwy gyhoeddi digwyddiad Pride Caerffili cyntaf.
 
Bydd Pride Caerffili yn ddathliad diwrnod cyfan yn digwydd rhwng 12pm-7pm ddydd Sadwrn 24 Mehefin 2023.
 
Gall ymwelwyr ddisgwyl digwyddiad i’r teulu cyfan, gan gydnabod a dathlu’r cyfraniadau gan bobl LHDTC+ yn ein cymdeithas. Ar y diwrnod, bydd adloniant byw a Gorymdaith Balchder eiconig i ddathlu.
 
Bydd yr orymdaith yn cychwyn o Ysgol Martin Sant, Caerffili am 12pm, gan anelu lawr drwy’r dref ac yn mynd o amgylch Maes Parcio’r Twyn lle bydd yn gorffen. 
 
Dywedodd y cynghorydd Jamie Pritchard, dirprwy arweinydd y Cyngor: “Rydyn ni wedi bod yn cwrdd am ychydig o fisoedd i ystyried cynllunio digwyddiad Pride Caerffili cyntaf. Rydyn ni’n hyderus y bydd yn ddiwrnod gwych llawn cerddoriaeth fyw, adloniant a dathlu wrth ddod at ein gilydd mewn cefnogaeth dros y gymuned LHDTC+ ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.
 
“Rydyn ni yn CBSC, wedi ymrwymo i sicrhau bod Bwrdeistref Sirol Caerffili yn aros yn lle cynhwysol i bawb fyw, i weithio ac i ymweld â hi, a bydd y digwyddiad hwn yn un ffordd yn unig i ni allu gwrando ar leisiau ein cymuned LHDTC+.”


Ymholiadau'r Cyfryngau