News Centre

Mae trigolion yn helpu llunio cynlluniau cyllideb

Postiwyd ar : 17 Chw 2023

Mae trigolion yn helpu llunio cynlluniau cyllideb

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ystyried ei gynlluniau cyllideb ar gyfer 2023/24 yr wythnos nesaf, yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus.

Mae adborth gan drigolion wedi bod yn allweddol wrth helpu llunio'r cynigion. Mae'r adroddiad cyllideb wedi'i ddiweddaru yn nodi bod arbedion gwreiddiol o fwy na £600 mil bellach yn cael eu hailystyried pan fydd cynghorwyr yn cyfarfod i gytuno ar y gyllideb derfynol.

Mae’r rhestr o arbedion sy’n cael ei hadolygu yn cynnwys:

  • Cynnydd arfaethedig o 20% mewn ffioedd ar gyfer cadw lle ar gaeau chwaraeon i'w ostwng i 12%
  • Ailfeddwl am dynnu £10 mil yn ôl ar gyfer Canolfan Gymunedol Markham – bydd y cymhorthdal nawr yn cael ei dapro dros gyfnod o dair blynedd o fis Ebrill 2023.
  • Bydd rhaglen ariannu o'r enw Cronfa Ymrymuso'r Gymuned yn cael ei lleihau 30% yn hytrach na'i thynnu'n ôl yn gyfan gwbl. 
  • Arbediad arfaethedig o 10% ar gyfer darpariaeth addysg arbenigol (SenCom) i'w ohirio wrth aros am drafodaethau ynghylch dull rhanbarthol wedi'i gytuno. 
  • Newid y gostyngiad arfaethedig o 5.5 awr yn y cyllid ar gyfer costau gofalwyr y Ganolfan Gymunedol i 4 awr a'i dapro dros 3 blynedd o fis Hydref 2023 ymlaen. 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, “Rydyn ni wedi gwrando’n ofalus ar farn ein trigolion ni ac, o ganlyniad, rydyn ni wedi ailfeddwl am nifer o’n cynigion arbedion gwreiddiol ni.

“Mae Caerffili, fel pob awdurdod lleol ledled Cymru, yn wynebu heriau ariannol sylweddol ar hyn o bryd, ond rydyn ni wedi gweithio’n galed i amddiffyn y gymuned rhag toriadau dwfn, diolch i’n rheoli ariannol pwyllog ni.

“Un o’r cynigion allweddol yw defnydd unwaith ac am byth o gronfeydd wrth gefn y Cyngor gwerth cyfanswm o £15.35 miliwn. Mae gan Gaerffili gronfeydd wrth gefn iach ar hyn o bryd, gyda mwyafrif yr arian wedi'i neilltuo a'i glustnodi ar gyfer cynlluniau penodol. Fodd bynnag, mae cyfran o'r arian yn gallu cael ei ddefnyddio os bydd ei angen yn y dyfodol.”

Argymhelliad allweddol arall yn yr adroddiad drafft yw cynyddu Treth y Cyngor gan 7.9% ar gyfer 2023/24. Byddai hyn yn cynyddu praesept Band D o £1,253.95 i £1,353.01 (cynnydd blynyddol o £99.06 neu £1.91 yr wythnos).

“Mae’n bwysig nodi, hyd yn oed gyda chynnydd o 7.9% yn nhreth y cyngor, bydd Caerffili yn parhau i fod yn un o’r cyfraddau treth y cyngor isaf oll yng Nghymru gyfan,” meddai’r Cynghorydd Morgan.

Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried yr adroddiad cyllideb terfynol yr wythnos nesaf (Mercher 22/2) cyn cyfarfod o’r Cyngor Llawn y diwrnod canlynol.

Mae’r adroddiad cyllideb llawn i’w weld yma: https://democracy.caerphilly.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=128&MId=13788&LLL=0



Ymholiadau'r Cyfryngau