News Centre

Cynnydd cadarnhaol yng nghynllun adfywio beiddgar Caerffili

Postiwyd ar : 20 Chw 2023

Cynnydd cadarnhaol yng nghynllun adfywio beiddgar Caerffili
Mae glasbrint uchelgeisiol a fydd yn trawsnewid ac yn adfywio canol tref Caerffili dros y blynyddoedd i ddod yn gwneud cynnydd da.

Cafodd adroddiad sy'n amlinellu'r cynnydd sydd wedi'i wneud tuag at wireddu Cynllun Llunio Lleoedd Tref Caerffili 2035 ei gyhoeddi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yr wythnos hon.

Mae'r Cynllun Llunio Lleoedd yn gosod glasbrint cyffrous ar gyfer adfywio canol tref Caerffili ac mae'n cynnwys cydweithio agos rhwng nifer o asiantaethau allweddol gan gynnwys y Cyngor, Llywodraeth Cymru, Cadw a Trafnidiaeth Cymru.

Mae'r adroddiad, a gafodd ei ystyried gan Bwyllgor Craffu Tai ac Adfywio y Cyngor, hefyd yn cynnwys diweddariad ar gais llwyddiannus y Cyngor ar gyfer defnyddio £20 miliwn o Gyllid Ffyniant Bro i adeiladu Canolfan Les gyfoes, newydd yng nghanol tref Caerffili. A hithau'n cynnwys yr holl gyfleusterau sy'n cael eu cynnig gan ganolfan hamdden draddodiadol, bydd y Ganolfan Les yn darparu rhagor o gyfleusterau ar gyfer lles corfforol a meddyliol, a bydd hi'n galluogi trigolion ledled y Fwrdeistref Sirol gyfan i fyw bywydau mwy actif.

Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd y Cyngor:
“Mae'r cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at gyflawni amcanion Llunio Lleoedd Tref Caerffili 2035 yn newyddion gwych i drigolion y Fwrdeistref Sirol hon.

“Mae'r prosiectau sy'n cael eu hamlinellu yn yr adroddiad hwn i gyd yn allweddol i wireddu ein gweledigaeth ni ar gyfer Caerffili 2035 – ac rydw i'n falch ein bod ni eisoes wedi datblygu nifer o'r prosiectau hanfodol hyn.”

Yn rhan o waith ailddatblygu safle'r hen Farchnad Dan Do, yn Pentrebane Street, bydd Cymdeithas Tai Linc yn adeiladu hyd at 74 o fflatiau newydd, a gofod masnachol a manwerthu newydd ar y llawr gwaelod. Ar hyn o bryd, mae Linc yn archwilio opsiynau ynghylch sut i wneud y defnydd gorau o'r safle – gyda dechrau 2024 yn cael ei nodi fel dyddiad cychwyn posibl ar gyfer dechrau'r gwaith dymchwel ac adeiladu.

Mae'r cynlluniau i ddatblygu cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus newydd yn parhau i fynd yn eu blaen. Mae ymgynghoriadau cychwynnol wedi casglu barn y cyhoedd i helpu datblygu cynnig sy'n diwallu anghenion trigolion. Er bod cais y Cyngor am Gyllid Ffyniant Bro yn aflwyddiannus ar gyfer y prosiect hwn, mae cyfleoedd ariannu allanol eraill yn cael eu harchwilio. Uchelgais y Cyngor yw i'r gyfnewidfa newydd ddod yn fodel arferion gorau ar gyfer cyfnewidfeydd trafnidiaeth y dyfodol yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.

Mae'r safle yn Park Lane, sy'n eiddo i'r Cyngor, wedi'i nodi fel y lleoliad mwyaf priodol ar gyfer y farchnad newydd, a fydd yn cymryd lle Neuadd y Farchnad Dan Do bresennol, yn Pentrebane Street. Bydd y farchnad newydd yn darparu cynwysyddion cludo wedi'u haddasu mewn amgylchedd o ansawdd uchel ar gyfer hyd at 28 o fasnachwyr newydd, gan gynnwys bwyd a diod, a gofod ychwanegol ar gyfer rhywfaint o fannau gwaith sy'n cael eu rheoli.

Mae cais cynllunio wedi'i gyflwyno, ac mae disgwyl i waith adeiladu'r prosiect ddechrau ym mis Mawrth 2023 gyda'r nod o agor y safle ym mis Medi 2023. Mae arian cyfatebol i gyfraniad y Cyngor wedi'i sicrhau gan Fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Mae prosiectau eraill, megis creu datblygiad gwesty hamdden newydd yn Park Lane a datblygu ardal Cwr y Castell, yn parhau i gael eu datblygu. Mae modd darllen rhagor am y rhain yn yr adroddiad llawn.

Dywedodd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd:
“Mae'r cynnydd sydd wedi'i hyd yma yn rhaglen Caerffili 2035 wedi bod yn rhagorol. Mae glasbrint Caerffili 2035 yn ymwneud ag adeiladu Caerffili sy'n gyrchfan adnabyddus i bobl y Fwrdeistref Sirol a thwristiaid hefyd.

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i drigolion y Fwrdeistref Sirol a byddwn ni'n parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion am y datblygiadau hyn yn ystod y misoedd nesaf.”

Gan hybu'r prif bwyntiau hyn, mae'r adroddiad cynnydd yn rhoi trosolwg o'r gwahanol ddatblygiadau y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi'u nodi i'w hystyried er mwyn gweithio tuag at gyflawni'r amcanion sydd wedi'u nodi yn y Siarter Llunio Lleoedd, sef:
  • Canolbwyntio buddsoddiad ar nifer o brosiectau adfywio mawr mewn modd cydlynol a chydgysylltiedig.
  • Lleihau'r effaith ar ganol y dref yn ystod gweithgarwch datblygu.
  • Cynnwys rhanddeiliaid allweddol cyn gynted â phosibl.
  • Creu amgylchedd deinamig sy'n ysgogi rhagor o ffyniant economaidd.
  • Creu cynllun a fyddai'n helpu datgloi ffynonellau cyllid allanol.
  • Ail-ddelweddu'r dref, fel ei bod hi'n dod yn gyrchfan fwy deniadol.
  • Lleihau llif traffig trwy ganol y dref.
  • Sicrhau bod ardaloedd difreintiedig lleol yn elwa'n uniongyrchol.

Os hoffech chi ddarllen yr adroddiad cynnydd llawn, gallwch chi fynd i wefan y Cyngor:
Tref Caerffili 2035 – Trosolwg o'r Prosiect ac Adroddiad Cynnydd.pdf (ar gael yn Saesneg yn unig)
 


Ymholiadau'r Cyfryngau