News Centre

Gwaith dymchwel yn dechrau ar hen gartref gofal diffaith yn Rhisga

Postiwyd ar : 01 Chw 2023

Gwaith dymchwel yn dechrau ar hen gartref gofal diffaith yn Rhisga
Mae gwaith dymchwel bellach wedi dechrau ar hen gartref gofal diffaith Tŷ Darran yn Rhisga.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi clustnodi'r safle ar gyfer cynllun arloesol newydd ar gyfer byw bywyd hŷn, a fydd yn cymryd lle nifer o gynlluniau tai lloches presennol yn yr ardal sy'n mynd i gau.

Meddai’r Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd y Cyngor, "Mae'n wych gweld y camau cyntaf wrth ddatblygu rhywbeth a fydd yn dod yn gynllun blaenllaw ar gyfer byw bywyd hŷn.

Rydyn ni'n gwybod o sgyrsiau gyda phreswylwyr y dyfodol eu bod nhw'n awyddus i weld datblygiad y cynllun, felly, dw i'n hyderus y bydd y cam cychwynnol hwn yn newyddion da."

Ychwanegodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, "Bydd y datblygiad hwn yn hollol wahanol i unrhyw beth sydd wedi cael ei gyflwyno gan y Cyngor o'r blaen.  Yn ogystal â lefelau uchel o effeithlonrwydd ynni, bydd y datblygiad hefyd yn cynnig mannau cymunedol, hyblyg o’r radd flaenaf a mannau awyr agored er mwyn gwella iechyd a lles preswylwyr.

Mae'r datblygiad mewn lleoliad gwych, gan gynnig mynediad hawdd at nifer o wasanaethau a hamdden i breswylwyr, yn y gymuned leol neu o gysur eu mannau cymunedol eu hunain.

Mae’r arbenigwr adeiladu Willmott Dixon wedi cael ei benodi gan y Cyngor i ddatblygu'r cyfleuster. Wrth siarad am y prosiect, dywedodd Ian Jones, Cyfarwyddwr yn Willmott Dixon, “Rydyn ni’n falch unwaith eto o fod yn cyflwyno prosiect ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Bydd y datblygiad yn darparu Fflatiau Byw Bywyd Hŷn mewn model blaenllaw. Rydyn ni’n credu y bydd pob cartref rydyn ni’n ei greu yn lle arbennig i fyw ynddo.”

Ar hyn o bryd, mae preswylwyr y dyfodol yn cael eu hymgynghori ynghylch cynlluniau ar gyfer y cyfleuster newydd; hefyd, bydd digwyddiad yn cael ei gynnal ar gyfer y gymuned leol gyda'r manylion yn cael eu rhannu'n fuan.
 
 


Ymholiadau'r Cyfryngau