Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Chwefror 2023
Gwaith dymchwel yn dechrau ar hen gartref gofal diffaith yn Rhisga
News Centre
Gwaith dymchwel yn dechrau ar hen gartref gofal diffaith yn Rhisga
Postiwyd ar : 01 Chw 2023
Mae gwaith dymchwel bellach wedi dechrau ar hen gartref gofal diffaith Tŷ Darran yn Rhisga.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi clustnodi'r safle ar gyfer cynllun arloesol newydd ar gyfer byw bywyd hŷn, a fydd yn cymryd lle nifer o gynlluniau tai lloches presennol yn yr ardal sy'n mynd i gau.
Meddai’r Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd y Cyngor, "Mae'n wych gweld y camau cyntaf wrth ddatblygu rhywbeth a fydd yn dod yn gynllun blaenllaw ar gyfer byw bywyd hŷn.
Rydyn ni'n gwybod o sgyrsiau gyda phreswylwyr y dyfodol eu bod nhw'n awyddus i weld datblygiad y cynllun, felly, dw i'n hyderus y bydd y cam cychwynnol hwn yn newyddion da."
Ychwanegodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, "Bydd y datblygiad hwn yn hollol wahanol i unrhyw beth sydd wedi cael ei gyflwyno gan y Cyngor o'r blaen. Yn ogystal â lefelau uchel o effeithlonrwydd ynni, bydd y datblygiad hefyd yn cynnig mannau cymunedol, hyblyg o’r radd flaenaf a mannau awyr agored er mwyn gwella iechyd a lles preswylwyr.
Mae'r datblygiad mewn lleoliad gwych, gan gynnig mynediad hawdd at nifer o wasanaethau a hamdden i breswylwyr, yn y gymuned leol neu o gysur eu mannau cymunedol eu hunain.
Mae’r arbenigwr adeiladu Willmott Dixon wedi cael ei benodi gan y Cyngor i ddatblygu'r cyfleuster. Wrth siarad am y prosiect, dywedodd Ian Jones, Cyfarwyddwr yn Willmott Dixon, “Rydyn ni’n falch unwaith eto o fod yn cyflwyno prosiect ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Bydd y datblygiad yn darparu Fflatiau Byw Bywyd Hŷn mewn model blaenllaw. Rydyn ni’n credu y bydd pob cartref rydyn ni’n ei greu yn lle arbennig i fyw ynddo.”
Ar hyn o bryd, mae preswylwyr y dyfodol yn cael eu hymgynghori ynghylch cynlluniau ar gyfer y cyfleuster newydd; hefyd, bydd digwyddiad yn cael ei gynnal ar gyfer y gymuned leol gyda'r manylion yn cael eu rhannu'n fuan.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Teyrngedau i'r cyn Faer
Cwpl o Drelyn yn cael eu dedfrydu am droseddau lles anifeiliaid a bridio cŵn yn anghyfreithlon
Trawsnewid bywydau trwy brosiect Allweddi Caerffili
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn diolch i drigolion am eu rhan mewn treial ailgylchu gwastraff bwyd llwyddiannus
Gwasanaeth teleofal Caerffili yn mynd yn ddigidol
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y