News Centre

Cabinet Caerffili yn cymeradwyo grantiau gwerth £2.54 miliwn ar gyfer cartrefi gwag

Postiwyd ar : 22 Chw 2023

Cabinet Caerffili yn cymeradwyo grantiau gwerth £2.54 miliwn ar gyfer cartrefi gwag
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo cynigion i gymryd rhan yn rhaglen Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, a fydd yn golygu bod £2.54 miliwn ar gael i sicrhau bod cartrefi gwag preifat yn cael eu defnyddio eto.
 
Cyfanswm y grant sydd ar gael i bob cartref drwy'r rhaglen yw £25,000, a gallai hynny olygu y bydd 101 o gartrefi preifat gwag yn cael eu defnyddio eto ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn ystod cyfnod dwy flynedd y rhaglen rhwng mis Ebrill 2023 a mis Ebrill 2025.
 
Bydd Llywodraeth Cymru yn dyrannu £2.31 miliwn i'r Cyngor, gydag aelodau'r Cabinet yn cymeradwyo £231,000 ychwanegol yn ategol i'r grant, a fydd yn galluogi mwy o berchnogion cartrefi gwag i sicrhau bod eu heiddo nhw'n cael defnydd buddiol unwaith eto.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Mae gan y Cyngor dîm ymroddedig sy’n gweithio’n galed iawn i ymgysylltu â pherchnogion cartrefi gwag, a'u cynorthwyo nhw.
 
"Mae cartrefi gwag hirdymor nid yn unig yn glwy ar gymunedau lleol ond hefyd yn cynrychioli adnodd sy’n cael ei wastraffu wrth i ni brofi argyfwng tai cenedlaethol.
 
“Rydyn ni'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y dyraniad cyllid hwn a hefyd i’m cyd-aelodau o’r Cabinet am gymeradwyo’r arian ychwanegol sydd ei angen i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fynd i’r afael â chartrefi gwag yn y Fwrdeistref Sirol.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i berchnogion eiddo gwag, cysylltwch â thîm pwrpasol y Cyngor ar 01443 811378 neu TaiSectorPreifat@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau