News Centre

Gwaith i ddechrau ar gofeb newydd Parc Lansbury

Postiwyd ar : 08 Rhag 2022

Gwaith i ddechrau ar gofeb newydd Parc Lansbury
Mae gwaith i fod i ddechrau’n fuan ar gofeb ym Mharc Lansbury, Caerffili, er cof am Darren Smith, a gafodd Fedal Ddewrder y Frenhines, ar ôl ei farwolaeth, am ei ddewrder rhagorol.
 
Collodd Darren ei fywyd wrth geisio achub Geraint Lewis a oedd yn 2 oed, a’i chwaer Jade a oedd yn 9 mis, o dân yn eu cartref ar yr ystâd ym mis Rhagfyr 1989.
 
Mae'r gofeb yn cael ei gosod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar fan gwyrdd yn Maxton Court, ac mae'n disodli'r plac coffa a oedd wedi'i leoli yn hen feddygfa Parc Lansbury. Mae disgwyl iddi gymryd tua thair wythnos i gwblhau'r gofeb newydd, gan ddibynnu ar y tywydd, ac yna bydd tair coeden yn cael eu plannu. Bydd gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal yn y flwyddyn newydd.
 
Meddai'r Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Rydyn ni'n gobeithio y bydd y gofeb newydd yn cynnig lle i'r teulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach i ddod a chofio'r dewrder rhyfeddol a gafodd ei ddangos gan Darren, a'r bywydau a gafodd eu colli y noson honno.”
 


Ymholiadau'r Cyfryngau