News Centre

Lleihau gwastraff bwyd ac arbed arian y Nadolig hwn

Postiwyd ar : 05 Rhag 2022

Lleihau gwastraff bwyd ac arbed arian y Nadolig hwn
Mae swm syfrdanol o dros 7 miliwn tunnell o fwyd yn bennu lan yn y bin bob Nadolig yn y Deyrnas Unedig. Mae hwn yn cynnwys nifer anhygoel o 5 miliwn pwdin Nadolig, 2 filiwn twrci, a 74 miliwn mins-pei!

Nid yw'n syndod, felly, mai cyfnod y Nadolig yw pryd mae gwastraff bwyd ar ei uchaf. Yn ffodus, mae camau syml gallwch chi eu cymryd nid yn unig i atal gwastraff bwyd y Nadolig hwn, ond hefyd eich helpu chi i arbed arian.
  1. Gwnewch gynllun – Rydyn ni i gyd yn euog o fynd ‘oddi ar y rhestr’ wrth wneud y siopa bwyd, a gydag amrywiaeth enfawr o nwyddau Nadolig ar gael, mae'r demtasiwn yn gallu bod yn gryfach nag erioed. Ond, er nad yw ychydig o bethau ychwanegol yma ac acw yn ymddangos fel llawer, yn aml mae'r rhain yn costio mwy na'ch cyllideb ac yn mynd i wastraff.Osgowch ychwanegu danteithion drwg drwy wneud cynllun clir o'r hyn rydych chi'n bwriadu ei fwyta dros gyfnod y Nadolig, heb anghofio pwdinau a byrbrydau.
  2. Gwnewch restr – Nawr eich bod chi'n gwybod yn union beth rydych chi'n bwriadu ei fwyta, gallwch chi greu rhestr siopa o bopeth sydd ei angen. Bydd hyn yn atal eitemau rhag cael eu hanghofio, yn lleihau teithiau munud olaf i’r siop ac yn sicrhau eich bod chi'n prynu dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch chi.
  3. Edrychwch yng nghypyrddau’r gegin – Gyda rhestr ar waith, mae’n syniad da edrych yng nghypyrddau eich cegin. Fyddwch chi byth yn gwybod, efallai bydd rhai nwyddau sych sydd ar ôl o'r llynedd sy'n dal i fod o fewn y dyddiad.
  4. Defnyddiwch eich gweddillion – Mae dydd Nadolig wedi dod i ben ac mae pawb yn llawn, ond mae digon o fwyd ar ôl? O stwnsh i frechdanau a chyrri, mae cymaint o opsiynau i roi cynnig arnyn nhw gyda'ch gweddillion cyn troi at y bin.
  5. Gwnewch eich rhewgell yn ffrind gorau i chi – Trefnwch eich rhewgell i baratoi ar gyfer unrhyw weddillion rydych chi eisiau eu cadw ar gyfer diwrnod arall. Gyda chig a llysiau wrth law, gallech chi arbed arian ar eich siopa bwyd ym mis Ionawr!
  6. Ailgylchwch eich gwastraff bwyd – Os oes gennych chi weddillion ar ôl yr holl gamau hyn, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ailgylchu eich gwastraff bwyd. Mae hyn yn llawer gwell i'r amgylchedd, ond hefyd gallech chi fod â siawns o ennill £500 yn ein hymgyrch Gweddillion am Arian! I gael rhagor o wybodaeth, ewch yma.


Ymholiadau'r Cyfryngau