News Centre

Staff Dull Byw Hamdden yn helpu i achub bywyd yng Nghlwb Golff Bargod

Postiwyd ar : 07 Rhag 2022

Staff Dull Byw Hamdden yn helpu i achub bywyd yng Nghlwb Golff Bargod
Daeth Owen Davies a Robert Arthur, sy'n gweithio yng Nghanolfan Hamdden Heolddu, i helpu pan oedd aelod o Glwb Golff Bargod wedi mynd yn sâl.

Cysylltodd y Clwb Golff â Chanolfan Hamdden Heolddu yn gofyn am gymorth nes i ambiwlans gyrraedd ar gyfer gŵr a oedd wedi llewygu ar y cwrs wrth chwarae golff. Roedd Owen a Robert, y ddau ohonyn nhw â chymwysterau Cymorth Cyntaf, yn gallu asesu’r gŵr ar ôl cyrraedd a’i symud i fwrdd asgwrn cefn. Wedyn, cafodd y gŵr ei symud yn ofalus i mewn i'r adeilad i aros am ambiwlans.

Arhosodd y gŵr yn ymwybodol ac yn siarad wrth aros am yr ambiwlans ac arhosodd Robert gyda fe nes iddyn nhw gyrraedd. Mae'r gŵr yn iach nawr ac yn gwella.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Hamdden, “Mae'n wych gweld Tîm Caerffili yn dod at ei gilydd ac yn cynorthwyo ei gilydd. Mae staff Canolfan Hamdden Heolddu wedi mynd y tu hwnt i'r disgwyl i helpu'r gymuned. Da iawn i Owen a Robert. Rydw i'n gobeithio bod y gŵr yn gorffwys ac rydw i'n dymuno gwellhad buan iddo fe.”

Mae gan Owen a Robert gymwysterau Cymorth Cyntaf ac roedden nhw'n gallu defnyddio eu sgiliau i helpu a chynorthwyo. Mae holl gynorthwywyr cyfleusterau hamdden ledled y Fwrdeistref Sirol sy'n cwblhau'r cwrs achubwyr bywyd pwll achrededig cenedlaethol hefyd yn cyflawni cymhwyster Cymorth Cyntaf. Mae'r sgiliau hyn yn eu galluogi nhw i ddelio ag unrhyw ddigwyddiad lle mae angen Cymorth Cyntaf neu ddiffibriliwr.


Ymholiadau'r Cyfryngau