News Centre

Apêl banc bwyd Nadoligaidd y Cyngor yn dal ar agor am roddion

Postiwyd ar : 12 Rhag 2022

Apêl banc bwyd Nadoligaidd y Cyngor yn dal ar agor am roddion
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn atgoffa staff, trigolion a busnesau bod ei apêl banc bwyd Nadoligaidd yn dal ar agor ar gyfer rhoddion.

Mae banciau bwyd yn darparu bwyd a chymorth brys i deuluoedd ac unigolion mewn argyfwng ariannol. Maen nhw'n dibynnu’n fawr ar roddion, yn enwedig dros y Nadolig, ac maen nhw wedi gweld cynnydd am alw eu cymorth oherwydd y costau byw cynyddol.

Mae’r Cyngor yn casglu rhoddion ariannol fel rhan o apêl eleni er mwyn galluogi banciau bwyd i brynu’r cyflenwadau y mae gwir eu hangen arnyn nhw.

Gallwch chi roi rhoddion ar-lein, drwy wefan y Cyngor.

Bydd yr apêl yn cau am roddion am hanner dydd, dydd Gwener 16 Rhagfyr.

I gael rhagor o wybodaeth am fanciau bwyd lleol, cysylltwch â thîm y Cyngor, Gofalu am Gaerffili, ar 01443 811490, e-bost GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk neu fynd i.


Ymholiadau'r Cyfryngau