News Centre

Y Cyngor yn lansio ymgyrch i recriwtio gweithwyr gofal ledled y Fwrdeistref Sirol

Postiwyd ar : 12 Rhag 2022

Y Cyngor yn lansio ymgyrch i recriwtio gweithwyr gofal ledled y Fwrdeistref Sirol
Heddiw, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi lansio ei ymgyrch ‘Gofalu yng Nghaerffili’ ledled gwahanol lwyfannau er mwyn annog unigolion i ddilyn gyrfa mewn gofal. Mae'r ymgyrch hefyd wedi'i chynllunio i ddathlu'r staff gofal gweithgar sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau trigolion bob dydd.

Nod yr ymgyrch yw newid safbwyntiau ar ofal oedolion yn ogystal ag ysbrydoli pobl dosturiol i ystyried rôl ofalu. Bydd Gofal yng Nghaerffili yn tynnu sylw at natur werth chweil gofal ac yn dangos Caerffili fel lle gwych i weithio.

Yn ôl amcangyfrif, gweithwyr gofal cartref a gofal preswyl i oedolion yw'r nifer uchaf o swyddi gwag yn y maes gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru. Mae Gofal yng Nghaerffili yn dangos nad oes angen cymwysterau ar gyfer rôl ofalu, mae'n ymwneud â'ch profiadau bywyd a'ch gallu i fod yn garedig a thosturiol.

Dywedodd y Cynghorydd Elaine Forehead, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, “Mae Gofal yng Nghaerffili am ddathlu'r bobl wych sy'n gofalu am ein trigolion mwyaf agored i niwed, a hoffwn i ddiolch i bob un o'n gofalwyr sy'n gwella bywydau yn uniongyrchol bob dydd.

“Mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n ehangu ein gweithlu yn y sector hwn a sicrhau ein bod ni'n gofalu am y rhai sydd ddim yn gallu gofalu am eu hunain mwyach. Gyda'r ymgyrch hon, rydyn ni eisiau herio camsyniadau yn ymwneud â gofal a chynorthwyo trigolion i greu gyrfa sy'n gweithio iddyn nhw.

“Os ydych chi'n berson ystyriol sydd eisiau gwneud rhywbeth gwerth chweil a gwneud gwahaniaeth i fywydau bob dydd, efallai mai chi yw'r person rydyn ni'n chwilio amdano.”

I gael rhagor o wybodaeth am ein cyfleoedd gofal cymdeithasol i oedolion a chlywed gan rai o weithwyr gofal Caerffili, ewch i'r dudalen Gofalu Yng Nghaerffili oedolion.


Ymholiadau'r Cyfryngau