News Centre

Dyfarnu'r Marc Ansawdd i Wasanaeth Ieuenctid Caerffili

Postiwyd ar : 12 Rhag 2022

Dyfarnu'r Marc Ansawdd i Wasanaeth Ieuenctid Caerffili
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ennill Marc Ansawdd Lefel Efydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Mae’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn offeryn unigryw ar gyfer hunanasesu, cynllunio gwelliant ac ennill rhagor o gydnabyddiaeth ym maes addysg.

Mae Lefel Efydd y Marc Ansawdd yn cael ei dyfarnu am ddangos arweinyddiaeth a llywodraethu priodol, y defnydd o brosesau monitro a gwerthuso priodol ac effeithiol, bod y sefydliad yn diogelu pobl ifanc a’i fod yn gweithredu o fewn y fframwaith cyfreithiol a pholisi perthnasol, gan ddarparu amgylchedd croesawgar a diogel ar gyfer pobl ifanc, sy'n gallu cael mynediad at staff a gwirfoddolwyr dibynadwy a medrus.

Cyn pandemig COVID-19, byddai Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili yn ymgysylltu â 16,000 o bobl ifanc bob blwyddyn.  Mae'r niferoedd ôl-COVID bellach yn ailgodi’n raddol wrth i ddarpariaeth mynediad agored a darpariaeth gwaith ieuenctid wedi’i thargedu ddychwelyd, megis gweithwyr clwb ieuenctid/stryd/ar-lein, Yr Islawr, y Fforwm Ieuenctid, grwpiau LHDTC, Rhieni Ifanc, Pobl Ifanc a Theuluoedd Targedig, a phrosiectau mwy arbenigol megis Innovate, lleihau trosedd, Lles a digartrefedd.

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, “Rwyf wrth fy modd bod Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili wedi cyflawni'r Marc Ansawdd Efydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

“Mae hyn yn dangos y gwaith amhrisiadwy mae ein Gwasanaeth Ieuenctid yn ei gyflawni, gan gynnig addysg anffurfiol i bob person ifanc a chymorth ac arweiniad pan fydd eu hangen fwyaf.  Da iawn bawb, ac rwy'n dymuno llwyddiant i chi wrth gyflawni'r lefel nesaf, sef y Lefel Arian.”


Ymholiadau'r Cyfryngau